Mae gan Tai Hafan 3 Gydlynydd Gwasanaethau Plant (CGP)– un ymhob
rhanbarth. Eu rôl yw gweithio gyda phlant a phobl ifanc o fewn y
Gymdeithas i sicrhau fod eu hanghenion yn cael eu diwallu, a’u hannog
i gymryd rhan yn y gweithgareddau a chynllunio am y dyfodol. Mae’r
CGP yn gweithio gydag unigolion ifanc, mewn grwpiau, gyda rhieni a phlant
efo’i gilydd, a gyda thenantiaid a defnyddwyr gwasanaeth ar sgiliau
bod yn rhiant.
Mae
Tai Hafan fwy fwy yn rhoi cymorth i denantiaid a defnyddwyr gwasanaeth
lle mae eu plant yn cael eu canfod i fod mewn perygl ac sy’n aml
ar gofrestr risg y Gwasanaethau Cymdeithasol. Fe fydd y CGP yn gweithio
gyda’r unigolyn ifanc i roi cynllun cymorth at ei gilydd ac a fyddai
hefyd yn gallu cynnwys gweithio gyda’r fam ar sut i fod yn rhiant,
neu rhan yr asiantaethau gwirfoddol neu ystadegol eraill.
Ym Mawrth 2002 fe gynhaliodd Tai Hafan gynhadledd Plant a Phobl Ifanc
llwyddiannus iawn yn Harlech, gyda 60 o bobl ifanc wedi’i mynychu.
Roeddynt yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau o ddawns a drama
i DJeio a gwneud modelau o’u Tai Hafan delfrydol. Gweithiodd Comisiynydd
y Plant, Peter Clark gyda nhw am un bore a mynegodd ei obeithion y buasai’r
Gymdeithas yn gallu annog ei bobl ifanc i gyfrannu i waith y comisiwn.
Mae
Cydlynydd Gwasanaethau Plant a pherson ifanc sydd yn gyn denant o Brosiect
Merched Ifanc Y Rhyl yn gweithio gyda grwpiau o bobl ifanc, i roi fforwm
pobl ifanc at ei gilydd a fydd yn gallu cael cysylltiadau ffurfiol gyda’r
comisiynydd yn y dyfodol.
|