16eg TACHWEDD, 2006 Daeth Rosalyn James , Swyddog Cyswllt Ysgolion Cymdeithas Tai Hafan â rhaglen Sbectrwm i Ysgol Gyfun Llanbed yn ddiweddar. Mae Sbectrwm yn anelu at roi gwybod i a chodi ymwybyddiaeth ymhlith plant, pobl ifanc ac athrawon am drais yn y cartref ac at roi gwell dealltwriaeth iddyn nhw o'r effeithiau ar blant a phobl ifanc sydd wedi byw mewn cartref treisgar. Mae Sbectrwm yn addas i Gyfnod Allweddol 3 ac mae'n cwmpasu themâu fel perthyn, teulu, perthnasoedd a datrys gwrthdaro. Bu Rosalyn hefyd yn helpu athrawon i gyflwyno rhaglen Sbectrwm yn effeithiol i ddisgyblion. Caiff y prosiect ei noddi gan Comic Relief ac felly mae pob sesiwn ac ymweliad yn rhad ac am ddim. Ar ei hymweliad ag Ysgol Gyfun Llanbed, dywedodd Rosalyn: “Gwrandawodd Blwyddyn 7 yn astud iawn ar y pwnc a drafodwyd heddiw, sef Perthyn, un o'r pynciau a drafodir ym mhecyn Sbectrwm. Weithiau mae plant yn ei chael yn anodd mynegi'u hunain i'w rhieni, athrawon neu i oedolion eraill, ac ar ôl y sgwrs rydyn ni'n rhoi'r arfau i'w helpu i wneud hyn, boed hynny'r hyder i ymddiried mewn oedolion eraill neu athrawon neu trwy roi rhifau cyswllt ffôn mudiadau all eu helpu'n ddienw.” Meddai Cathy Davies , Prif Weithredydd Cymdeithas Tai Hafan:- “Daw llawer o'r deunydd ym mhecyn Sbectrwm o brofiadau go iawn plant a phobl ifanc ein tenantiaid sydd wedi siarad am deimlo'n unig ac wedi'u stigmateiddio oherwydd eu profiadau o orfod gadael eu cartrefi oherwydd camdriniaeth a thrais yn y cartref. Mae'r pecyn yn un cam i helpu codi ymwybyddiaeth a gobeithio i ddechrau newid agweddau ac felly i atal mwy o drais i'r dyfodol.” Pe bai gan unrhyw ysgol yng Nghymru ddiddordeb mewn dysgu mwy am Raglen Sbectrwm, cysylltwch â Chymdeithas Tai Hafan ar 01267 2255555. PARTNERIAETHAU POSITIF MEWN CYFRANOGIAD “Mae'n wych i allu dathlu llwyddiant! Mae enillwyr Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru bob amser yn hynod o falch o gael cydnabyddiaeth am eu hymdrechion a'u cyflawniadau. Ac maent yn hollol iawn i fod yn falch oherwydd mae eu gwaith yn cael effaith fuddiol go iawn yn eu cymunedau. CYMDEITHAS TAI HAFAN YN CYHOEDDI PROSIECT Y WAWR NEWYDD YN YMCA Y BARRI Swyddfa Cymdeithas Tai Hafan yn y Barri oedd un o'r sefydliadau cyntaf i gynnal lansiad yn adeilad newydd ei adnewyddu YMCA Y Barri sydd erbyn hyn yn gartref i Ddysgu Cymunedol. Pwrpas y lansiad hwn oedd dathlu Prosiect Dysgu Gydol Oes Y Wawr Newydd y gymdeithas, a ariennir gan y Swyddfa Ariannu Ewropeaidd ac Elwa. Mae'r Wawr Newydd yn rhaglen hyfforddi achrededig a ddatblygwyd yn benodol i ategu'r gwaith y mae Tai Hafan yn ei wneud i gynnal menywod a'u plant, annog pobl i adnabod a datblygu medrau sydd efallai ganddynt yn barod ond nad ydynt yn hyderus yn eu cylch. Mae'n arloesol yn y ffordd y mae'n mesur cynnydd y sawl sy'n cymryd rhan ynddi a gall adnabod gwelliannau mewn ‘medrau meddal' sy'n rhagflaenydd i gynhwysiad cymdeithasol llawn ac sy'n effeithio'n uniongyrchol ar allu person i gymryd rhan mewn addysg prif ffrwd a/neu gyflogaeth. Mae prosiect y Wawr Newydd yn gweithio gyda menywod difreintiedig o bob oed, ac mae'n cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop i weithio mewn 4 ardal awdurdodau lleol - Bro Morgannwg, Sir Fflint, Wrecsam a Phowys - trwy ddatblygu a chyflwyno rhaglenni hyfforddiant sy'n hwyluso datblygiad personol, ac sy'n eu gwneud yn fwy cyflogadwy. Mae menywod difreintiedig o bob oed yn cael hyfforddiant ar feysydd yn amrywio o fedrau ymarferol sylfaenol a diogelwch cartref cyffredinol, dygymod ar incwm isel, meithrin hyder, dygymod â straen a dicter, perthnasoedd iachus i ddeiet ac ymarfer, a llawer mwy. Er mwyn manteisio ar thema cariad a chynnal ein gilydd Dydd San Ffolant, cymerodd yr aelodau ran mewn creu murlun, gwneud cardiau Ffolant ac fe gawsant flas ar sesiynau mwytho o massage a thriniaeth dwylo. Meddai Cathy Davies - Prif Weithredydd Tai Hafan : “Rydym wrth ein boddau ein bod wedi derbyn arian ar gyfer prosiect dysgu gydol oes y Wawr Newydd. Mae'n bum mlynedd ers i Tai Hafan gydnabod yr angen i alluogi ein defnyddwyr gwasanaethau i fynd yn ôl i weithio neu i fanteisio ar hyfforddiant ac addysg a'n harweiniodd i sefydlu ein rhaglen ddysgu ein hunain ar gyfer y menywod rydym yn eu cynnal ac sy'n eu helpu i ail-adeiladu eu hyder a datblygu eu medrau personol yn y byrdymor a gobeithio i gael gwaith maes o law. Mae llawer o'r bobl rydym yn eu cynnal wedi bod yn ddi-waith am gryn amser ac yn aml mae ganddynt anawsterau iechyd meddwl neu gyda chamddefnyddio cyffuriau neu alcohol - mae'r Wawr Newydd yn gadael iddyn nhw ddysgu ar eu cyflymdra eu hunain a chyda staff y maen nhw'n teimlo'n gyfforddus â nhw ac y maen nhw wedi meithrin perthynas o ymddiriedaeth gyda nhw”. Meddai Kay Hughes, Prif Swyddog, Prosiect Dysgu Gydol Oes Y Wawr Newydd: “Y gwerth ychwanegol y mae'r Wawr Newydd yn ei roi i'n defnyddwyr gwasanaethau yw'r cyfle y mae'n rhoi iddynt fynd yn ôl i ddysgu mewn amgylchedd diogel, anffurfiol.” CYMDEITHAS TAI HA FAN YN CYHOEDDI SIOP ARLEIN A PHORTH CYNHALIAETH 10fed Chwefror 2006 Mae Cymdeithas Tai Hafan yn agor ei siop ar-lein a phorth cynhaliaeth ei hun i geisio codi arian y mae mawr ei angen ar y gymdeithas. GWEITHREG CYNNAL NEWYDD SECTOR PREIFAT AR GYFER PROSIECT MENYWOD IFANC Y RHYL Mae Prosiect Menywod Ifanc Y Rhyl wedi derbyn arian o Grant Cymorth 2006-09 i gyflogi Gweithreg Cynnal Sector Preifat am dair blynedd. Bydd y weithreg yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych. Meddai Katie Owen-Gant, Rheolydd Rhanbarthol Cymdeithas Tai Hafan ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru:- “Gobeithiwn leihau'r defnydd o lety dros dro fel gwely & brecwast. Bydd Tai Hafan a Chyngor Sir Ddinbych yn mabwysiadu agwedd ragweithiol tuag at y gwaith o atal digartrefedd. Gan fod yr arian ar gael, gallwn fynd ati o ddifrif i chwilio am y person iawn ar gyfer y swydd fydd yn cychwyn ym mis Ebrill 2006.” Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Tai Hafan ffoniwch 01267 225555. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ar y datganiad i'r wasg cysylltwch â Jennifer Hobbs-Roberts o Commedia ar 0845 130 1508. Mae Tai Hafan yn gymdeithas dai elusennol sy'n darparu gwasanaethau tai a chynhaliaeth i fenywod a chanddynt amrywiol anghenion. Hi yw'r unig gymdeithas tai yng ngwledydd Prydain sy'n defnyddio dynesiad person-ganolog tuag at ddarparu gwasanaethau tai a chynhaliaeth i fenywod, gan fenywod. |