Nodau & Amcanion 2005– 2006

Datganiad o Egwyddor

Cymdeithas Tai Hafan – Gwasanaethau Tai a Chymorth o safon i fenywod a phlant yng Nghymru wedi ei sefydlu ar Gyfle Cyfartal ac Ymglymiad Defnyddwyr

Nodau Tai Hafan yw:

  • Ymrymuso menywod plant a phobl ifanc dan anfantais ymhob agwedd ar eu bywydau a'u galluogi i weithio tuag at fyw bywydau cwbl annibynnol yn y gymuned.
  • Datblygu partneriaethau i ddynodi ac i ddarparu ar gyfer anghenion menywod diamddiffyn gyda phlant neu heb rai, ac yn enwedig felly'r rhai sydd wedi goroesi camdriniaeth yn y cartref
  • Datblygu cysylltiadau gyda chyrff a mudiadau eraill i ddarparu ar gyfer ac ymgyrchu dros well gwasanaethau ar gyfer menywod a'u plant sy'n byw gyda chamdriniaeth
  • Darparu gwasanaethau cynnal o safon i ystod eang o anghenion, yn seiliedig ar anghenion yr unigolyn
  • Dynodi a gweithio gydag anghenion plant a menywod ifanc sydd wedi cael eu cam-drin
  • Sicrhau bod sail ariannol gadarn i'r gwasanaethau a gyflwynwn
  • Cynyddu a rheoli a chadw ein stoc tai i safon uchel

Amcanion Tai Hafan yw:

  • Sicrhau hyfywedd ariannol ac adeiladu cryfder ariannol gan gynyddu cost-effeithiolrwydd ac ehangu ein ffynonellau ariannu
  • Atgyfnerthu a gwella safon pob un o'n gwasanaethau yn barhaus.
  • Sicrhau cyfranogiad llawn a pharhaus ein tenantiaid, defnyddwyr gwasanaeth a staff trwy gyfathrebu effeithiol, rhannu gwybodaeth a gwneud yn siwr fod ein gwasanaethau o fewn cyrraedd
  • Gofalu fod strategaethau a pholisïau'r Gymdeithas yn cydymffurfio ag egwyddorion cynaliadwyedd hirdymor, gan gynnwys mater fforddiadwyedd ar gyfer tenantiaid
  • Cynyddu proffil y Gymdeithas a marchnata ein gwasanaethau yn eang.
  • Ehangu'r gwasanaethau ac adnoddau i blant a menywod ifanc o fewn y Gymdeithas
  • Datblygu gwasanaethau newydd o ran cymorth a thai er mwyn diwallu'r anghenion a ddynodir.

Datganiad Cyfleodd Cyfartal
Datganiad Polisi

Sefydlwyd Cymdeithas Tai Hafan yn 1989 gyda'r amcan o ddarparu gwasanaethau tai a chynhaliol i fenywod a phlant sy'n wynebu'r angen mwyaf, a hynny mewn modd teg a chyfartal.

Mae'r Gymdeithas yn cydnabod y cam-wahaniaethir yn erbyn rhai grwpiau ac unigolion mewn cymdeithas. Mae wedi ymrwymo i gymryd camau positif i helpu unioni effeithiau camwahaniaethu ac anfantais er mwyn sicrhau fod cyfle cyfartal yn dod yn nodwedd annatod ymhob un o'i gweithgareddau. Mae'n cydnabod y manteision a ddaw o gydnabod a dathlu gwahaniaethau pobl ac mae wedi ymrwymo i reoli amryfaldeb mewn ffordd gadarnhaol - o fewn amcanion datganedig y Gymdeithas - er mwyn sicrhau fod yr holl weithwyr, cyfranddalwyr, Aelodau'r Bwrdd, defnyddwyr gwasanaethau a phartneriaid yn cael cyfleoedd cyfartal waeth beth yw eu rhyw, statws priodasol, tueddiad rhywiol, lliw, hil, tarddiad ethnig, cenedligrwydd, iaith, oed, iechyd, credoau gwleidyddol a chrefyddol, anabledd neu salwch.

I'r perwyl hwn, mae gan y Gymdeithas ddatganiad cenhadaeth sy'n adlewyrchu ei hymrwymiad i sicrhau fod cyfleoedd cyfartal yn cynnal yr holl feysydd gwaith a gwasanaethau a'i fod felly'n cael ei gynnwys yn ein holl bolisïau a gweithdrefnau.

Pwrpas y polisi hwn yw datgan ymrwymiad y Gymdeithas i gael gwared â chamwahaniaethu annheg o bob agwedd o'i gwaith, i amlinellu blaenoriaethau polisi ac i roi'r dulliau ar gyfer gweithredu, monitro a chydlynu'r cynnydd a wneir tuag at gyflawni'r amcanion polisi hynny.

Mae'n cydnabod

Mae Polisi Cyfleoedd Cyfartal y Gymdeithas yn cyfeirio’n gyfartal at y meysydd canlynol:

  • Darparu tai a gwasanaethau
  • Recriwtio, gwaith a hyfforddiant
  • Datblygu tai, ymgynghorwyr a chontractwyr
  • Partneriaid, boed yn statudol neu wirfoddol
  • Cyfranddalwyr a'r Bwrdd Rheoli.

Strategaeth Cyfranogiad Tenant

Tenant yn cyfranogi yng ngharnifal ‘Mass’ AbertaweTenant yn cyfranogi yng ngharnifal ‘Mass’ Abertawe

1. Datganiad Polisi

Mae Cymdeithas Tai Hafan wedi ymrwymo i gyfranogiad ac ymglymiad gweithgar yr holl ddefnyddwyr gwasanaethau a'u plant ymhob agwedd ar waith y Gymdeithas. Yn benodol, mae Cymdeithas Tai Hafan am ddatblygu polisïau ac arferion rheoli tai arloesol wedi eu hadeiladu o gwmpas cyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau mewn datblygiadau tai graddfa fechan a Phrosiectau Cynhaliaeth Symudol, wedi'u gwasgaru ar draws Cymru gyfan.

O ystyried natur y tai sy'n cael eu darparu ac anghenion cynhaliaeth y tenantiaid, mae Tai Hafan yn cydnabod mai hyblygrwydd yw'r allwedd i gyfranogiad ystyrlon gan eu defnyddwyr gwasanaethau a bod adolygu a gwerthuso parhaus ar y strategaeth hon yn hanfodol er mwyn sicrhau bod cyfleoedd addas i ddefnyddwyr gwasanaethau gyfrannu ar gael ac y cynigir y cyfleoedd mwyaf posib i ddefnyddwyr gwasanaethau gymryd rhan yn holl waith y gymdeithas.

Mae cyfranogiad tenantiaid yn cael ei ystyried yn rhan o wasanaeth cyflawn Tai Hafan i denantiaid a defnyddwyr gwasanaethau wrth iddo ddarparu manteision amrywiol iddynt. Mae'r rheini sy'n cymryd rhan yn gweld ei fod yn gallu helpu i adeiladu hyder ac yn eu galluogi nhw i ddechrau'r broses o reoli eu bywydau eu hunain.

Mae Cymdeithas Tai Hafan wedi ymrwymo i fabwysiadu dynesiad Gwerth Gorau tuag at ddarparu ei gwasanaethau tai a chynnal ac at sefydlu Compactau Cyfranogiad gyda'i thenantiaid a defnyddwyr gwasanaethau. Fel rhan o'r broses hon, bydd y Gymdeithas yn cynnwys defnyddwyr gwasanaethau yn y gwaith o ddatblygu ei Strategaeth Cyfranogiad Defnyddwyr Gwasanaethau a'r Cynlluniau Gweithredu sy'n dilyn er mwyn gwella cyfranogiad gweithgar defnyddwyr gwasanaethau yng ngweithgareddau'r Gymdeithas a bydd yn adolygu'r strategaeth, y cynlluniau gweithredu a'r Compact yn flynyddol gyda defnyddwyr gwasanaethau.


2. Datblygu’r Strategaeth

Cadarnhawyd strategaeth gyntaf Tai Hafan gan y Pwyllgor Rheoli yn 1995. Cydnabuwyd y buasai’n rhaid i Tai Hafan ddatblygu modd arloesol o gymryd rhan oherwydd yr amrediad daearyddol, maint y cynlluniau, trosiant uchel y tenantiaid a’u hanghenion cynnal.
Un o amcanion y strategaeth oedd i sicrhau bod yna ymgynghori yn digwydd gyda thenantiaid yngly^n â’r cynigion ac i allu dylanwadau ar sut y buasai cyfranogiad y tenant yn datblygu o fewn y gymdeithas. Mae’r ymgynghori yma wedi digwydd mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys trafodaethau manwl mewn Cyfarfodydd Tenantiaid Rhanbarthol, cyfarfodydd cynllun a gyda thenantiaid unigol sydd â diddordeb. Mae TPAS (Cymru) hefyd wedi bod yn cymryd rhan yn y trafodaethau hyn fel hwyluswyr i’r cyfarfodydd rhanbarthol. Roedd Tai Hafan hefyd yn rhan o adroddiad ymchwil o’r enw ‘mae’n edrych fel synnwyr cyffredin i mi’. Mae’r strategaeth wedi datblygu o ganlyniad i’r trafodaethau gyda thenantiaid, canfyddiadau’r ymchwil a monitro a gwerthuso effeithlonrwydd yr ymglymiad gan y Tîm Rheoli.


3. Y Strategaeth

Er mwyn bod yn effeithiol, mae’n cael ei gydnabod bod yn rhaid i’r cyfranogiad gael ei ddatblygu er mwyn y tenantiaid yn ogystal ag er mwyn y gymdeithas. Mae cyfranogiad yn aml yn cael ei ddisgrifio fel ysgol lle mae tenantiaid a chymdeithasau angen dringo’r camau amrywiol cyn bod cyfranogiad llawn yn bosibl. Gan weld natur cymorth a thai Tai Hafan, mae’n cael ei dderbyn bod y cynlluniau a’r tenantiaid unigol yn gallu bod ar gamau gwahanol ar yr ysgol ar unrhyw amser, felly, mae angen i Tai Hafan fod mor hyblyg â phosibl yn y ffordd mae ymglymiad yn cael ei annog o fewn y gymdeithas.

Bydd Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Tai Hafan yn cynnwys chwe adran:

  • Darparu gwybodaeth
  • Cael Adborth oddi wrth Denantiaid a Defnyddwyr Gwasanaethau
  • Cynnwys Tenantiaid a Defnyddwyr Gwasanaethau
  • Darparu Adnoddau ar gyfer y Strategaeth
  • Datblygu'r Strategaeth
  • Monitro a Gwerthuso
3.1 Darparu Gwybodaeth i Denantiaid

Derbynnir ei bod hi'n amhosibl bod yn rhan o unrhyw gymdeithas heb wybodaeth. Mae hi felly'n hanfodol fod Defnyddwyr Gwasanaethau yn cael gwybodaeth am Tai Hafan mewn ffyrdd sy'n hygyrch iddynt. Ysgrifennir dogfennau mewn Cymraeg syml a dealladwy.

Mae Tai Hafan yn gweithio tuag at ddarparu'r wybodaeth hon yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae Tai Hafan yn gweithio tuag at ddarparu'r wybodaeth hon mewn ffurfiau eraill, megis tapiau sain / fideo pan fod adnoddau ar gael.

Math o Wybodaeth - Amledd y’i darperir

Ar gyfer Tenantiaid sy'n byw mewn Adeiladau sy'n eiddo i Tai Hafan yn unig:

  • Llawlyfr Tenantiaid – Ar ddechrau'r denantiaeth a dylid trafod adrannau mewn sesiynau cymdeithasol yn y cynllun
  • Gwarant Tenantiaid – Ar ddechrau'r denantiaeth
  • Newidiadau i Bolisïau Tai – Mewn Cylchlythyr / trwy hysbysiad personol / mewn sesiynau cymdeithasol y Cynllun / Rhanbarthol

Ar gyfer Defnyddwyr Gwasanaethau sy'n derbyn Gwasanaethau Symudol

  • Llawlyfr Defnyddwyr Gwasanaethau – Ar ddechrau'r Gwasanaethau Cynnal

Ar gyfer yr holl Denantiaid a Defnyddwyr Gwasanaethau

  • Aelodaeth Tai Hafan – Mewn sesiynau cymdeithasol y Cynllun / Rhanbarthol / Blynyddol. Nodyn Atgoffa mewn Cylchlythyron
    Adroddiad Blynyddol Tai Hafan - Blynyddol
  • Dangosyddion Perfformiad – Yn Flynyddol mewn Cylchlythyr / Adroddiad Blynyddol
  • Cylchlythyr Tenantiaid – Cynhyrchir 3 gwaith y flwyddyn gan denantiaid a chyda gwybodaeth gan staff
  • Newidiadau i staff canolog - Cylchlythyr
  • Newidiadau i staff cynlluniau – trwy hysbysiad personol a gwahoddiadau i gyfrannu at y broses recriwtio
  • Y gwasanaeth yn gyffredinol a datblygiadau yn y gwasanaethau - mewn Cylchlythyr / Adroddiad Blynyddol / mewn sesiynau cymdeithasol y Cynllun / Rhanbarthol / Blynyddol

3.2 Cael atborth gan y Tenantiaid

Er mwyn gwneud penderfyniadau gwell ac i wella'r gwasanaeth a ddarperir, mae'n hanfodol y ceir adborth oddi wrth ddefnyddwyr gwasanaethau.

Mae gan Tai Hafan nifer o ffyrdd o gael adborth a bydd y Gymdeithas yn parhau i ddatblygu ffyrdd newydd o gael adborth sy'n addas i anghenion defnyddwyr ei gwasanaethau.

Ar hyn o bryd ceir adborth trwy'r dulliau canlynol :

Y Gwasanaeth Cynnal

Yn unigol trwy broses gynlluniedig o drefnu cynhaliaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau sy'n cynnwys adolygiadau gyda defnyddwyr gwasanaethau unigol - yn fisol, 4 misol a phan maen nhw'n gadael Tai Hafan

Bob blwyddyn gofynnir i ddefnyddwyr gwasanaethau presennol a chyn ddefnyddwyr am eu sylwadau ar y gwasanaethau yn ystod proses Gwarantu Ansawdd pob cynllun neu brosiect. Ceir yr wybodaeth hon naill ai trwy ffurflen gyffredin neu trwy drafodaeth wyneb yn wyneb gyda'r person sy'n cynnal yr adolygiad (trowch at System Gwarantu Ansawdd Tai Hafan). Trwy system gwynion Tai Hafan sy'n cael ei rhoi ar waith gan y Rheolydd Rhanbarthol lleol a/neu'r Prif Weithredydd, gyda chyfle i'r gwyn gael ei chyflwyno gerbron y Bwrdd Rheoli.

Y Gwasanaeth Tai (ar gyfer tenantiaid sy'n byw yn eiddo Tai Hafan yn unig)

Polisïau Tai

  • Yn unigol trwy lythyr neu drafodaeth bersonol
  • Trwy Gylchlythyr Tenantiaid / Defnyddwyr Gwasanaethau
  • Trwy Sesiynau Cymdeithasol Cynllun / Prosiect / Tai /, Rhanbarthol a Blynyddol Tenantiaid

Cynnal a Chadw

  • Danfonir holiaduron bodlonrwydd at denantiaid
    Pan roddir gwasanaethau cynnal a chadw Tai Hafan allan i dendr i gorff neu fudiad arall bydd rhaid i'r corff neu fudiad hwnnw asesu i ba raddau yr oedd y gwaith atgyweirio a wnaed ar ran Tai Hafan yn foddhaol
  • Ceir adborth hefyd trwy archwiliad blynyddol o adeiladau a gynhelir gan Reolydd a thrwy broses Adolygiad Blynyddol (System Gwarantu Ansawdd).
  • Yn unigol trwy drefniadau cwynion Tai Hafan
  • Materion a godir mewn sesiynau cymdeithasol cynlluniau a rhanbarthol

Dylunio

  • Ceir adborth trwy archwiliad blynyddol o adeiladau a gynhelir gan Reolydd a thrwy broses Adolygiad Blynyddol (SGA).
  • Gofynnir i denantiaid lenwi holiadur dylunio ar ôl byw mewn datblygiad newydd am 6 mis ac fe gynhelir archwiliadau rheolaidd yn ystod y cyfnod diffygion.

Cyffredinol

  • Gofynnir am farn tenantiaid yn ystod proses yr Adolygiad Blynyddol (SGA) a thrwy lenwi holiadur pan adawant Tai Hafan
  • Anogir tenantiaid i gynnal cyfarfodydd cynllun/prosiect rheolaidd
  • Gwahoddir pob tenant i'w Sesiynau Cymdeithasol Rhanbarthol lleol sy'n rhoi cyfle iddyn nhw drafod materion gyda'u Rheolydd Rhanbarthol / Rheolydd Rhanbarthol Cynorthwyol.
  • Cynhelir Cynhadledd Cymru Gyfan sy'n cynnwys aelodau'r Bwrdd, y Prif Weithredydd a staff eraill.
  • Gan fod y Cylchlythyr Tenantiaid yn cael ei gynhyrchu gan denantiaid ar gyfer tenantiaid, mae'n gyfle delfrydol i denantiaid leisio barn ar faterion sy'n eu poeni

Materion Cyffredinol Eraill a Materion Cynlluniau

  • Trwy bob un o'r uchod a thrwy drafodaethau gyda defnyddwyr gwasanaethau yn ystod grwpiau trafod arbennig a drefnir i edrych ar faterion penodol
  • Trwy awgrymiadau a wneir gan ddefnyddwyr gwasanaethau mewn Sesiynau Cymdeithasol


3.3. Cynnwys Tenantiaid a Defnyddwyr Gwasanaethau

tai hafan

Mae Tai Hafan yn anelu at gynnwys defnyddwyr gwasanaethau mewn cymaint o ffyrdd ag y bo modd ac at fod yn hyblyg yn y ffordd y cynhwyswn ddefnyddwyr gwasanaethau yn ein gwaith.

Mae Tai Hafan hefyd yn cydnabod efallai na fydd defnyddwyr gwasanaethau yn dymuno cymryd rhan mewn cyfarfodydd grwp yn nyddiau cynnar eu cynhaliaeth gan Tai Hafan ac iddyn nhw efallai y byddai'n well gofyn am eu barn yn unigol trwy gyswllt uniongyrchol, naill ai trwy lythyr neu trwy'r broses cynllunio cynhaliaeth.

Wrth i ddefnyddwyr gwasanaethau fagu mwy o hyder efallai y byddant yn awyddus i gyfrannu at faterion ehangach yn y cynllun/prosiect yn eu crynswth neu i faterion sy'n effeithio'r gymdeithas yn gyffredinol.

Dros y blynyddoedd, mae Tai Hafan a defnyddwyr ei gwasanaethau wedi datblygu a sefydlu dull o alluogi defnyddwyr gwasanaethau i gymryd rhan sy'n seiliedig ar yr uchod ac sy'n galluogi defnyddwyr gwasanaethau i gymryd cymaint o ran ag y mynnant.

Nid yw dulliau mwy traddodiadol o alluogi tenantiaid a defnyddwyr i gymryd rhan yng ngwaith y gymdeithas, gan gynnwys sefydlu Grwpiau Tenantiaid ffurfiol wastad wedi cael eu hystyried yn briodol gan ddefnyddwyr gwasanaethau oherwydd natur dros dro eu cysylltiad â'r gymdeithas a'u hanghenion unigol ar unrhyw adeg. Fod bynnag, pan fod grwp o denantiaid yn dymuno sefydlu Grwp Tenantiaid ffurfiol bydd Tai Hafan yn cefnogi ac annog tenantiaid i gyflawni'r nod honno.

Sesiynau Cymdeithasol Prosiectau / Cynlluniau / Tai

  • Cam cyntaf cymryd rhan yw trwy sesiynau cymdeithasol prosiect / cynllun lleol neu dai. Safon isaf-derbyniol Tai Hafan yw bod rhaid cynnal o leiaf 1 sesiwn gymdeithasol prosiect / cynllun lleol neu dy bob 2 fis h.y. 6 y flwyddyn
  • Syniad y sesiynau hyn yw eu bod mor anffurfiol ag y bo modd a gellir eu cynnal mewn ystafelloedd cymunedol os ydynt ar gael, yng nghartrefi defnyddwyr gwasanaethau, mewn swyddfeydd lleol, caffis, canolfannau cymunedol neu fan cyhoeddus addas arall
  • Nod y sesiynau cymdeithasol yw gofalu fod tenantiaid yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf, ymgynghori ar faterion cynllun / prosiect a materion Tai Hafan, cael adborth oddi wrth ddefnyddwyr gwasanaethau a rhoi cychwyn ar y broses o gynnwys defnyddwyr gwasanaethau yng ngwaith Tai Hafan.
  • Mewn cyfarfodydd cynllun, mae Tai Hafan yn cefnogi defnyddwyr gwasanaethau a'u plant sy'n dymuno codi arian ar gyfer achosion lleol.

Sesiynau Cymdeithasol Rhanbarthol

  • Mae safon isaf-derbyniol Tai Hafan yn dweud y dylid cynnal Sesiynau Cymdeithasol / Digwyddiadau Rhanbarthol i ddefnyddwyr gwasanaethau 4 gwaith y flwyddyn yn y 3 rhanbarth - Gogledd, De a'r Canolbarth a'r Gorllewin. Gwahoddir pob tenant a defnyddwyr gwasanaethau yn y rhanbarth i'r sesiynau cymdeithasol hyn.
  • Gellir darparu hwylusydd oddi allan neu oddi fewn i'r gymdeithas ar gyfer y sesiynau cymdeithasol hyn sy'n cyfarfod yn rhan gyntaf y cyfarfod gyda'r tenantiaid a'r defnyddwyr gwasanaethau heb fod unrhyw staff yn bresennol.
  • Mae'r sesiynau cymdeithasol yn rhoi cyfle i'r defnyddwyr gwasanaethau drafod materion mwy cyffredinol gyda menywod o gynlluniau a phrosiectau eraill.
  • Bydd y Rheolydd Rhanbarthol / Rheolydd Rhanbarthol Cynorthwyol yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau a godwyd neu i fynd ag awgrymiadau a materion a godwyd yn ôl ac i gymryd y camau angenrheidiol. Mae'r hwylusydd yn cadw nodiadau o'r cyfarfod.

Cynhadledd Flynyddol Cymru Gyfan i Ddefnyddwyr Gwasanaethau

  • Mae'r cyfarfod hwn yn gyfle pellach i gymryd rhan ac fe wahoddir pob tenant a defnyddwyr gwasanaethau i'w mynychu er mwyn cael cyfle i gyfarfod aelodau eraill o'r staff ac aelodau'r Bwrdd.
  • Un o nodau'r Sesiwn Gymdeithasol Cymru Gyfan yw rhoi cyfle i denantiaid a'u plant i gyfrannu at broses blaen gynllunio Tai Hafan ac i adolygu'r Compact Cyfranogiad a'r Strategaeth ar gyfer cymryd rhan.

Aelodaeth ar y Bwrdd Rheoli

  • Ar hyn o bryd fe neilltuir dau le i denantiaid ar y Bwrdd Rheoli ac mae tenantiaid a defnyddwyr gwasanaethau yn cael eu hannog i gyflwyno ceisiadau.
  • Derbynnir fodd bynnag, oherwydd anghenion eithriadol defnyddwyr gwasanaethau Tai Hafan a natur fyrdymor eu tenantiaeth neu wasanaethau cynhaliol, efallai na fydd tenantiaid a defnyddwyr gwasanaethau cyfredol mewn sefyllfa ble y gallent neu y byddent yn awyddus i ymuno â'r Bwrdd Rheoli.
  • Ar hyn o bryd nid oes unrhyw denantiaid na defnyddwyr gwasanaethau cyfredol yn aelodau o'r Bwrdd er bod gennym erbyn hyn 4 cyn denant sydd yn aelodau'r Bwrdd.

Gweithgorau / Grwpiau Trafod

  • Mae Tai Hafan yn annog defnyddwyr gwasanaethau i gymryd rhan mewn gweithgorau a grwpiau trafod ad hoc, sy'n edrych ar faterion penodol sy'n eu heffeithio nhw a'r Gymdeithas.
  • Cyfrannodd tenantiaid/defnyddwyr gwasanaethau at nifer o'r grwpiau hyn, gan gynnwys y canlynol:

Gweithgor i baratoi pecyn ABCh ar gyfer ysgolion ar gamdriniaeth yn y cartref

Datblygu Pecyn Gwybodaeth am Wasanaethau Tai Hafan

Gweithgor i drafod dathliadau 10 mlynedd Tai Hafan

Gweithgor i drefnu'r Gynhadledd a gynhaliwyd ym mis Medi 1999

Grwpiau Trafod bychain a gynhaliwyd yn y Gynhadledd i edrych ar faterion a godwyd gan denantiaid

Gr w p Trafod yn edrych ar Faterion Plant

Gweithgor i drefnu a rheoli prosiectau newydd

Gr w p bychan o denantiaid a fu'n diwygio'r Llawlyfr Tenantiaid

Gan fod y rhain yn grwpiau ar gyfer Cymru gyfan mae'n gallu bod yn anodd galluogi tenantiaid / defnyddwyr gwasanaethau sy'n dangos diddordeb i allu mynd. Mae defnyddwyr gwasanaethau nad ydynt yn gallu mynd yn bersonol wedi gofyn am gael adborth a diweddariadau ar hynt a helynt unrhyw weithgorau.

Ffyrdd Eraill o Gynnwys Defnyddwyr Gwasanaethau

  • Mae Tai Hafan yn ceisio cynnwys defnyddwyr ei gwasanaethau a'u plant pryd bynnag y mae hynny'n bosib. Rhestrir isod rai enghreifftiau o hynny:

Ymglymiad wrth Recriwtio Staff Cynlluniau

Gwahoddir defnyddwyr gwasanaethau i'r broses recriwtio ar gyfer eu Cydlynwyr Prosiect lleol, proses y cymerodd rhai ohonynt ran ynddi.

Ymglymiad wrth Gynhyrchu Gwybodaeth am Tai Hafan

Bu nifer o denantiaid presennol a chyn denantiaid a'u plant ynghlwm wrth y gwaith o wneud fideo dwyieithog ar Tai Hafan gan wneud eu cyfraniadau eu hunain iddo.

Mae tenantiaid hefyd wedi cyfrannu at fideo dwyieithog a'r Llawlyfr Tenantiaid

Cysylltiad ag asiantaethau allanol

Mae tenantiaid wedi mynychu Cynadleddau Blynyddol TPAS Cymru ers rhai blynyddoedd, gan gymryd rhan weithgar mewn Gweithdai ar gyfranogiad mewn Tai Cynaledig.

Mae tenantiaid hefyd wedi cyfrannu at fideo a gomisiynwyd gan WFHA ar denantiaethau byrddaliad aswiriedig.

Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaethau a'u Plant mewn Mentrau Newydd

Yn ystod y Gynhadledd Tenantiaid a gynhaliwyd ym mis Medi 1999 cododd nifer o blant faterion stigmateiddio mewn ysgolion.

O'r herwydd gwnaeth Tai Hafan gais llwyddiannus am arian Ewropeaidd i godi'r ymwybyddiaeth am drais yn y cartref a'i effeithiau ymhlith plant ysgol yng Nghymru.

Cymerodd tenantiaid a'u plant ran mewn gweithdai theatr a gynhaliwyd mewn ysgolion ac yn y gwaith o gynhyrchu Pecyn Sbectrwm (pecyn addysgol i'w ddefnyddio mewn ysgolion ledled Cymru) a gafodd ei lansio'n swyddogol ym mis Ionawr 2001. Rydym newydd dderbyn arian i hwyluso ymhellach y defnydd o'r Pecyn Sbectrwm mewn ysgolion

Mae defnyddwyr gwasanaethau hefyd wedi cymryd rhan mewn Gweithdai Gofal Celf ar lefel cynlluniau, yn cynnwys ffotograffiaeth, argraffu sgrin ac ati.

Yn fwy diweddar, mae defnyddwyr gwasanaethau wedi cymryd rhan mewn arbrawf o Brosiect Dysgu Gydol Oes Y Wawr Newydd Tai Hafan.

3.4 Darparu Adnoddau ar gyfer y Strategaeth

Mae'n amhosib galluogi defnyddwyr gwasanaethau i gymryd rhan yn effeithiol heb gael digon o adnoddau, yn ariannol ac o ran amser ac ymrwymiad staff. Mae Tai Hafan a defnyddwyr ei gwasanaethau yn cydnabod y bydd y costau o ariannu strategaeth ar gyfer Cymdeithas fechan sy'n gweithio ymhob rhan o Gymru yn uchel, er y cytunir hefyd fod angen i'r Gymdeithas fod yn ymwybodol o'r cyfyngiadau ariannol sydd eu hangen a bod angen i unrhyw wariant fod yn gost effeithiol.

Darperir adnoddau i hyrwyddo cyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau yn y ffyrdd canlynol:

Cyllideb - Mae cyllideb yn cael ei phennu bob blwyddyn ar gyfer galluogi defnyddwyr gwasanaethau i gymryd rhan er mwyn talu am gostau cyfarfodydd, gan gynnwys canolfannau, lluniaeth, gofal plant, hwyluswyr, a theithio a chostau galluogi defnyddwyr gwasanaethau i fynychu cynadleddau a sesiynau hyfforddiant.

Cynhwysir costau hyfforddi staff ac aelodau'r Bwrdd yng nghyllideb hyfforddiant Tai Hafan.

Hyfforddiant – Mae strategaeth hyfforddiant Tai Hafan a'i rhaglen hyfforddiant flynyddol yn cael eu datblygu o Gynllun Blaengynllunio'r Gymdeithas. Mae hyfforddi staff i hyrwyddo cyfranogiad a'r medrau sydd eu hangen i gyflawni'r gwaith hwn yn un o elfennau craidd y strategaeth hyfforddiant.

Amser Staff – Mae'r gymdeithas yn rhoi amser i staff fynychu cyfarfodydd, monitro adborth a hyrwyddo cyfranogiad

Mae gan rai swyddi o fewn y gymdeithas gyfrifoldeb penodol am Gyfranogiad Defnyddwyr Gwasanaethau e.e. Cydlynwyr Prosiect Teithiol

Adnoddau Ariannol Ychwanegol – Fel rhan o'i strategaeth codi arian bydd Tai Hafan yn gwneud cais am arian elusennol ac arian grant ychwanegol er mwyn hyrwyddo a galluogi tenantiaid a defnyddwyr gwasanaethau i gymryd rhan ym mywyd a gwaith y gymdeithas.

Mae staff yn cynorthwyo tenantiaid ar lefel cynlluniau i godi arian trwy ddigwyddiadau codi arian.

3.5 Datblygu’r Strategaeth a Chynllun Tair Blynedd

Yr egwyddor bwysicaf wrth ddatblygu strategaeth ar gyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau yw yr ymgynghorir gyda defnyddwyr gwasanaethau a'u bod yn cael cymryd rhan ymhob cam a bod y cynllun gweithredu yn cael ei adolygu'n barhaus.

  • Ymgynghorwyd â Defnyddwyr Gwasanaethau ac fe'u cynhwyswyd yn y gwaith o ddatblygu'r strategaeth hon
  • Mae'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Cyfranogi yn cael ei adolygu bob blwyddyn yng Nghynhadledd Flynyddol y Defnyddwyr Gwasanaethau
  • Mae'r Cynllun Gweithredu yn gosod y safonau isaf-derbyniol ar gyfer cyfranogiad y mae'n rhaid eu cyflawni bob blwyddyn

Bydd ein hymrwymiad i gyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau yng ngwaith y gymdeithas yn cael ei gynnal trwy adroddiadau cyson gan y Rheolydd Rhanbarthol (Y De) i'r Tîm Rheoli a'r Bwrdd Rheoli ar y cynnydd a'r newidiadau i'r Cynllun Gweithredu.

3.6 Monitro a Gwerthuso

Mae'n hanfodol fod yr adborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau ac effeithiolrwydd y broses gyfranogi yn cael eu monitro, eu gwerthuso a'u hadolygu. Mae hyn yn digwydd yn y ffyrdd canlynol:

  • Mae pob ymateb i holiaduron y defnyddwyr gwasanaethau yn cael eu gweld gan aelod perthnasol y tîm rheoli a chymerir y camau angenrheidiol ar unwaith
  • Mae gan ddefnyddwyr presennol a chyn ddefnyddwyr ein gwasanaethau y cyfle i gyfrannu i System Gwarantu Ansawdd y Gymdeithas, sy'n cynnwys adborthau o POMS a COAS ac fe gyflwynir y canlyniadau i'r Bwrdd Rheoli
  • Mae Rheolwyr Rhanbarthol yn monitro effeithiolrwydd cyfranogiad o fewn eu rhanbarthau eu hunain ac fe gyflwynir adroddiadau i'r Tîm, y Bwrdd ac i ddefnyddwyr gwasanaethau mewn sesiynau cymdeithasol rhanbarthol
  • Mae effeithiolrwydd cyfranogiad yn cael ei fonitro gan d defnyddwyr gwasanaethau yng Nghynhadledd Flynyddol Cymru Gyfan y Tenantiaid.