CyrhaeddiadauTai Hafan
1989
Cofrestrodd Tai Hafan fel Cymdeithas Ddarbodus a Diwydiannol a chymdeithas
dai
1990
Torri ‘sod’ cyntaf ar gyfer cynllun dechreuol – Drefach
1991
Cynllun cyntaf i’w reoli – Castell Nedd, Cwblhau Drefach,
yna Caernarfon.
Cyflogi’r Gweithwyr Cymorth Tai Cyntaf
1992
Cymryd dau fflat a th_ Bangor drosodd gan Cymorth i Ferched, cwblhau cynllun
y Rhyl a’i agor, yna Llandrindod
1993
Daeth Cei Connah, Aberhonddu, Treffynnon a St Dogmaels i reolaeth
1994
Cwblhau eiddo anghenion cyffredinol Port Talbot, daeth cynlluniau Abertawe
a Phen y Bont ar Ogwr i reolaeth
Tai Hafan allan o ddiffygion ariannol ac i mewn i’r arian dros ben
1995
Prosiect Phoenix yng Nghaerfyrddin yn agor i ferched ifanc sydd yn gadael
gofal. Cynllun Penrhyndeudraeth dod i reolaeth.
Cynllun ‘gwasgarog’ cyntaf cael ei sefydlu ym Mhort Talbot.
1996
Lloches gyntaf i reolaeth mewn partneriaeth gyda Cymorth i Ferched Abertawe
Cwblhau cynlluniau Pontardawe a Phontypridd.
1997
Cynlluniau Rhondda a Llandudno i reolaeth. Tendr llwyddiannus i reoli
prosiect i ferched ifanc di-amddiffyn yn y Rhyl.
1998
Lloches y Drenewydd i reolaeth. Prosiect Merched ifanc y Rhyl yn agor
ei ddrws.
1999/2000
Tai Hafan yn dathlu deng mlynedd gyda Chynhadledd i Denantiaid. Lansio
fideo i bartneriaid ac ymgeiswyr.
Prynu eiddo fel meithrinfa dydd a chanolfan adnoddau yng Nghaernarfon.
Cynllun Ynys Môn i reolaeth.
Prosiect Perl yn cael sêl bendith a lleoli eiddo ym mis Mawrth 2000.
2001/2002
2 brosiect cymorth tai i ferched ifanc – Prosiect Brigit yn Rhondda
Cynon Taf a Phrosiect Merched Ifanc Conwy.
Gweithiodd gr_p o 5 tenant gydag ymgynghorwr allanol i adolygu ein Llawlyfr
i Denantiaid a’i wneud yn ddealladwy. Roeddem yn hapus iawn gyda’r
cynnyrch terfynol.
2004/2005
- Tai Hafan yn dathlu ei 15fed pen-blwydd gyda dathliad ar y cyd & Chyfarfod Blynyddol yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe.
- Cyflogi Cydlynydd Gwasanaethau Cyflafareddu i gynnig gwasanaeth cyflafareddu mewn partneriaeth â Tai Cymdogaeth & Trothwy Cyf.
- Tai Hafan yn penodi Swyddog Cyswllt Ysgolion trwy arian a dderbyniwyd gan Comic Relief. Bydd y swydd hon yn helpu hyrwyddo Pecyn Sbectrwm y gymdeithas i ysgolion
- Prosiect Menywod Ifanc Wrecsam yn agor ei ddrysau am y tro cyntaf.
2003 - Gwnaeth Tai Hafan Fwy Na Dyblu o Ran Maint!
o Erbyn mis Awst 2003 roeddem yn cynnal dros ddwbl y
nifer o ddefnyddwyr y gwasanaeth â’r mis Awst blaenorol
Roedd
nifer y staff wedi cynyddu o 37 ym mis Mawrth 2001 i 102 ym mis Awst 2003
Enillodd Prosiect Perl y Wobr Val Feld i’r Digartref cyntaf erioed
Enillodd Tai Hafan y Wobr TPAS am Gyfathrebu mewn Tai am ein Llawlyfr
i Denantiaid a gafodd ei ail-ddrafftio gan denantiaid a oedd yn gweithio
gydag ymgynghorwr allanol.
Cymerodd tenantiaid a staff Abertawe o Ranbarth De Cymru ran yng ngharnifal
Abertawe.
Enillodd un tenant ei cham cyntaf mewn cymwysterau cyfrifo tra gyda Tai
Hafan a phan gadawodd hi, cafodd ei swydd cyfrifo cyntaf.
Yn dilyn Ymweliad Astudiaeth gan 2 aelod staff, gan gynnwys y Prif Weithredwr,
i Lublin yn Poland ym mis Chwefror, treuliodd 5 aelod staff a 7 tenant
o brosiectau merched ifanc Tai Hafan 10 diwrnod yn Warsowa yn Poland yn
cyfarfod merched ifanc eraill ag anfanteision ac yn gwneud cysylltiadau
a ffrindiau.
Rhedodd y rhaglen peilot Addysg Gydol Oes Gwawr Newydd am 10 wythnos ac
roedd yn llwyddiannus iawn.
Croesawodd Tai Hafan swydd Cydlynydd Trais Domestig cyntaf i Sir Gaerfyrddin,
yn dilyn cais llwyddiannus gan ein Rheolwr Mentrau Newydd am arian gan
Menter Trais Domestig Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol.
|