Prosiect Acorn/Pecyn Sbecrwm

Yn Ionawr 2000 bu Tai Hafan yn llwyddiannus yn ennill grant yn uniongyrchol o Ewrop o dan yr Ymgyrch Ewropeaidd yn erbyn Trais Domestig ar gyfer prosiect i godi ymwybyddiaeth effeithiau trais domestig ar blant a phobl ifanc. Daeth y syniad am y prosiect yma o gynhadledd Tenantiaid Preswyl Tai Hafan ym mis Medi 1999 lle’r oedd plant o brosiectau a chynlluniau Tai Hafan yn gweithio gyda fforwm ar sail grw^p theatr – Theatr Fforwm Cymru – i gydnabod materion a oedd yn berthnasol iddynt. Yn benodol, roedd y darn gwaith a gynhyrchiwyd ganddynt ar ffurf Sioe Jerry Springer ffug i gydnabod fod y bobl ifanc yma, llawer ohonynt wedi gorfod gadael eu cartrefi oherwydd trais yn y cartref, yn teimlo bod ganddynt stigma ac yn alltud yn llygaid eu hathrawon a’u cyfoedion yn yr ysgol, a oedd yn dangos diffyg dealltwriaeth ac empathi i’r sefyllfa a’u harweiniodd nhw i fyw mewn cartref Tai Hafan.

Yn fuan ar ôl y gynhadledd daeth y cyfle i wneud cais am gymorth grant gan yr Ymgyrch Ewropeaidd yn erbyn Trais Domestig a dyluniwyd cynllun prosiect gyda dau brif amcan:

  1. I weithio mewn partneriaeth gyda Theatr Fforwm Cymru mewn ysgolion yn y Gogledd, Gorllewin a’r De i helpu i godi ymwybyddiaeth materion trwy gyfrwng y theatr.
  2. I gynhyrchu pecyn addysgiadol i gael ei ddefnyddio mewn ysgolion yng Nghymru fel rhan o PSE (addysg bersonol a chymdeithasol) i godi ymwybyddiaeth y materion sy’n wynebu pobl ifanc sy’n dod o gartrefi lle mae yna drais

Cyflwynwyd y cais ym mis Hydref 1999 a chawsom wybod ein bod wedi bod yn llwyddiannus ym mis Ionawr 2000, gan ddechrau gweithio ar y ddau ran o’r prosiect yn fuan wedyn. Yn wreiddiol roedd y prosiect fod i redeg o Ionawr i Ebrill ond cafodd ei ymestyn tan Orffennaf.


 

Pecyn Sbectrwm

Yn 1999, cynhaliodd Tai Hafan Gynhadledd Tenantiaid i ddathlu ei 10fed penblwydd. Allan o'r gwaith a wnaeth y plant a'r bobl ifanc oedd yn bresennol gyda Theatr Fforwm Cymru fel hwyluswyr, penderfynodd Tai Hafan ddatblygu pecyn ar gyfer ysgolion i godi ymwybyddiaeth am effeithiau trais yn y cartref, ar blant a phobl ifanc. Allan o hyn y ganed y Pecyn Sbectrwm, pecyn ABCh a baratowyd gyda'r plant a'r bobl ifanc yn byw yn adeiladau tai cynaledig Tai Hafan.

Pwrpas y Pecyn Sbectrwm yw rhoi i bobl ifanc 11-14 oed (blynyddoedd 7, 8 a 9 yn yr ysgol uwchradd) ledled Cymru gyfle i ddysgu am drais yn y cartref a'i effeithiau ar blant a phobl ifanc, ac yn enwedig felly'r rhai sy'n cael eu gorfodi i adael eu cartrefi oherwydd trais er mwyn:

  • eu helpu i ddeall effeithiau hyn a mathau eraill o drawma
  • eu hannog i gynnal a chefnogi mentrau i helpu eu cyfoedion sy'n dioddef neu'n byw gyda thrais yn y cartref
  • dylanwadu ar eu hymddygiad yn y gymuned o ran trais yn y cartref

Cynhyrchwyd y pecyn hwn yn 2001 ac fe'i dosbarthwyd i bob ysgol uwchradd a phob awdurdod addysg yng Nghymru, diolch i arian a dderbyniwyd gan gronfa'r Undeb Ewropeaidd ar gyfer gweithredu i fynd i'r afael â thrais yn y cartref.

Yn 2004, penododd Tai Hafan Swyddog Prosiect Cyswllt ag Ysgolion; Rosalyn James. Y Swyddog Cyswllt ag Ysgolion yw'r prif bwynt cyswllt yn Tai Hafan ar gyfer y Pecyn Sbectrwm. Mae Rosalyn yn gyfrifol am ofalu fod yr adnodd yn dal i fod yn addas a pherthnasol trwy ymgynghori ag Ymgynghorwyr ABCh ac am ddatblygu Gr w p Llywio i gynorthwyo gyda'r gwaith o ddatblygu'r adnodd.

Mae hi'n gyfrifol am hyrwyddo'r adnodd i ysgolion a grwpiau eraill ledled Cymru, trwy ganolbwyntio yn y lle cyntaf ar Orllewin Cymru. Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys darparu sesiynau hyfforddiant i athrawon a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth cysylltwch â :

Swyddog Prosiect Cyswllt ag Ysgolion; Rosalyn James ar:
01267 225555

rosalyn@tai-hafan.co.uk