Prosiect Gwawr NewyddProsiect Gwawriad Newydd

Nod y prosiect

Mae Gwawriad Newydd yn darparu mynediad i Hyfforddiant Achrededig gan Helpu Datblygiad Personol a Gwella Cyfleoedd am Waith ac Addysg Bellach i Ddefnyddwyr ein Gwasanaeth. Sut?

 

 

Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy:

  • Gwaith gydag unigolion gan ddefnyddio Pecyn Hyfforddiant
  • Gweithio mewn grwpiau bach ar lefel cynllun
  • Gweithio mewn grwpiau mawr ar lefel rhanbarthol

 

Pynciau Craidd a Astudir:
Cyflwyniad i Tai Hafan a Llawlyfr y Tenantiaid
Hawliau & Chyfrifoldebau

Siarter Cymorth
Delio gyda incwm isel
Dinasyddiaeth

Cadw Rheolaeth yn Eich Cartref
DIY sylfaenol a Gwaith Cynnal a Chadw Cyffredinol yn y Cartref

Datblygiad Personol
Magu Hyder; Delio gyda Straen a Gwylltineb; Perthnasau

Cynllunio i’r Dyfodol
Cydnabod Goliau ac Uchelgeisiau; Paratoi am Waith

Cadw’n Iach
Deiet ac Ymarfer Corff; Ymwybyddiaeth Cyffuriau ac Alcohol; Therapi Amgen

Grwpiau a Sut i Fod yn Rhan
Gwaith Tim; Rheolau Sylfaenol; Cyflwyno a Chyfranogiad
A chymaint mwy

Yn ogystal mae’r rhaglen wedi cynnwys hyfforddiant mewn…

  • Sgiliau Sylfaenol
  • Rheolaeth Amser
  • Sgiliau DJ
  • Tai Chi/ Symud
  • Iechyd Rhyw
  • Celf a Chrefft
  • Bwyd a Thymer
  • Diogelwch yn y Cartref
  • Aromatherapi

Mae Gwawriad Newydd yn brosiect Dysgu Gydol Oes a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF)

 

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Swyddog P rosiect Dysgu Gydol Oes Gwawriad Newydd ; Kay Hughes ar: 01267 225555

kayhughes@tai-hafan.co.uk


Gwansanaethau Plant

Mae gan Tai Hafan 3 Gydlynydd Gwasanaethau Plant (CGP)– un ymhob rhanbarth. Eu rôl yw gweithio gyda phlant a phobl ifanc o fewn y Gymdeithas i sicrhau fod eu hanghenion yn cael eu diwallu, a’u hannog i gymryd rhan yn y gweithgareddau a chynllunio am y dyfodol. Mae’r CGP yn gweithio gydag unigolion ifanc, mewn grwpiau, gyda rhieni a phlant efo’i gilydd, a gyda thenantiaid a defnyddwyr gwasanaeth ar sgiliau bod yn rhiant.


Plant yn cyfranogi yng ngharnifal ‘Mass’ AbertaweMae Tai Hafan fwy fwy yn rhoi cymorth i denantiaid a defnyddwyr gwasanaeth lle mae eu plant yn cael eu canfod i fod mewn perygl ac sy’n aml ar gofrestr risg y Gwasanaethau Cymdeithasol. Fe fydd y CGP yn gweithio gyda’r unigolyn ifanc i roi cynllun cymorth at ei gilydd ac a fyddai hefyd yn gallu cynnwys gweithio gyda’r fam ar sut i fod yn rhiant, neu rhan yr asiantaethau gwirfoddol neu ystadegol eraill.


Ym Mawrth 2002 fe gynhaliodd Tai Hafan gynhadledd Plant a Phobl Ifanc llwyddiannus iawn yn Harlech, gyda 60 o bobl ifanc wedi’i mynychu. Roeddynt yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau o ddawns a drama i DJeio a gwneud modelau o’u Tai Hafan delfrydol. Gweithiodd Comisiynydd y Plant, Peter Clark gyda nhw am un bore a mynegodd ei obeithion y buasai’r Gymdeithas yn gallu annog ei bobl ifanc i gyfrannu i waith y comisiwn.


Mae Cydlynydd Gwasanaethau Plant a pherson ifanc sydd yn gyn denant o Brosiect Merched Ifanc Y Rhyl yn gweithio gyda grwpiau o bobl ifanc, i roi fforwm pobl ifanc at ei gilydd a fydd yn gallu cael cysylltiadau ffurfiol gyda’r comisiynydd yn y dyfodol.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Cydlynydd Gwasanaethau Plant ( Gogledd Cymru ); Kate Johnston ar: 01492 535381

katejohnston@tai-hafan.co.uk

Cydlynydd Gwasanaethau Plant ( Canolbarth & Gorllewin Cymru ); Rachel Matthews ar: 01267 225555

rachelmatthews@tai-hafan.co.uk

Cydlynydd Gwasanaethau Plant ( De Cymru ); Lynne Davies ar: 01639 642338

lynnedavies@tai-hafan.co.uk

 


Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Mae Tai Hafan yn cyflogi tair Cydlynydd Gwasanaethau Iechyd Meddwl i ddarparu cynhaliaeth un i un ychwanegol i denantiaid a defnyddwyr gwasanaethau a gwybodaeth i aelodau staff sy'n gweithio gyda menywod a chanddynt broblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Cydlynydd Gwasanaethau Iechyd Meddwl (Gogledd Cymru); Debbie Neale ar: 01978 822077

debbien@tai-hafan.co.uk

Cydlynydd Gwasanaethau Iechyd Meddwl (Canolbarth & Gorllewin Cymru); Val Walker ar: 01267 225555

valeriewalker@tai-hafan.co.uk

Cydlynydd Gwasanaethau Iechyd Meddwl (De Cymru); Michelle Apthorpe ar: 01639 642338

michellea@tai-hafan.co.uk



Cydlynydd Trais yn y Cartref

Cydlynydd Trais yn y Cartref

Sefydlwyd Fforwm Camdriniaeth yn y Cartref Sir Gaerfyrddin ym mis Ebrill 2000. Mae'r Fforwm yn bartneriaeth sirol o gyrff a mudiadau sydd wedi ymrwymo i wella gwasanaethau i bobl sy'n dioddef c amdriniaeth yn y cartref .

Ers 2003 mae Cymdeithas Tai Hafan wedi cartrefu Cydlynydd Camdriniaeth yn y Cartref y Fforwm ; Samantha Jones. Ei rôl yw gweithio gyda chyrff a mudiadau ar draws y sir i helpu codi ymwybyddiaeth, cynnal cyrff a mudiadau trwy hyfforddiant a thrwy brynu offer diogelwch ar gyfer dioddefwyr.

Y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd:

  • Codi ymwybyddiaeth gyhoeddus am g amdriniaeth yn y cartref trwy ymgyrchoedd, addysg a'r cyfryngau
  • Gofalu fod dioddefwyr yn gallu cael gafael ar wahanol fathau o gymorth
  • Darparu offer diogelwch (larymau, ffonau symudol a chloeon) y gellir eu benthyca i ddioddefwyr ar draws y Sir
  • Hyrwyddo'r gwasanaethau sydd ar gael oddi wrth gyrff a mudiadau sy'n aelodau o'r Fforwm
  • Cynhyrchu llenyddiaeth a thaflenni gwybodaeth ar gyfer dioddefwyr gwrywaidd a benywaidd
  • Rhedeg gweithdai ymwybyddiaeth a chyrsiau hyfforddiant ar gyfer cyrff a mudiadau, yn lleol a chenedlaethol, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf, arfer dda ac ystadegau lleol am g amdriniaeth yn y cartref
  • Rhedeg gweithdai meithrin hyder ar gyfer dioddefwyr c amdriniaeth yn y cartref
  • Gofalu am y wefan ranbarthol a chael mwy o bobl i ymweld

Mae'r Fforwm yn anelu at hyrwyddo arfer dda a gofalu fod dioddefwyr camdriniaeth yn y cartref yn cael gwasanaeth da.

 

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan ranbarthol yn: www.notyourfault.org neu cysylltwch â'r:

Cydlynydd Camdriniaeth yn y Cartref (Fforwm Camdriniaeth yn y Cartref Sir Gaerfyrddin); Samantha Jones ar: 01267 232351

samanthajones@tai-hafan.co.uk


 

Partneriaeth sirol o asiantaethau, mudiadau ac unigolion sydd wedi ymrwymo I wella gwasanaethau ar gyfer y rheiny sy’n dioddef trais yn y cartref.