Staff Uwch


Cathy Davies B. A. Hons. - Prif Weithredwr


cathy daviesMae Cathy wedi bod gyda’r Gymdeithas ers ei chychwyniad yn 1989. Cyn Tai Hafan roedd hi’n gweithio gyda Cymorth i Ferched Cymru a Chymorth i Fenywod Caerfyrddin, gyda chyfanswm o 15 mlynedd o brofiad yn y sector gwirfoddol. Mae hi hefyd wedi gweithio fel athrawes ac ymchwilydd ac wedi cyd-reoli fferm laeth organig


Claire Thomas A.A.T, C.I.M.A - Rheolwr Cyllid

Cyn dechrau gweithio gyda Tai Hafan yn 2000, roedd Claire wedi gweithio fel Rheolwr Cyfrifon ac Uwch Ymarferwr Methdaliadau yn y sector preifat. Mae ganddi 15 mlynedd o brofiad cyfrifo.


Lynda Holt Cert. Ed. - Rheolwr Rhanbarth (Gogledd Cymru)

Roedd Lynda yn Weithiwr Cymorth Tai ac Uwch Weithiwr Cymorth Uwch gyda Tai Hafan, ac wedi bod gyda’r Gymdeithas ers 1992. Mae ei dyletswyddau presennol yn cynnwys rhedeg rhanbarth y Gogledd o ddydd i ddydd gyda ffocws arbennig ar wasanaethau cymorth i denantiaid. “mae fy rhanbarth yn cynnwys prosiectau a chynlluniau o ystod eang ym Mangor, Bae Colwyn, Caernarfon, Cei Connah, Treffynnon, Penrhyndeudraeth, y Rhyl, Llandudno, Wrecsam ac Ynys Môn. Mae hyn yn cynnwys prosiectau i ferched ifanc di-amddiffyn yn y Rhyl , Bae Colwyn a Wrecsam . Gan adeiladu ar berthynas wych ein rhanbarth gydag asiantaethau gwirfoddol a statudol, rydym wedi bod yn ffodus i weithio’n agos gyda’r gwasanaeth prawf, ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygiadau cyffrous yn ein gwaith gyda nhw. Datblygwyd Gwasanaethau Cynhaliaeth Symudol mewn tenantiaethau awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych. ”


Jan Stoneman B.A.,M Sc.,CQSW - Rheolwr Rhanbarth (Y Canolbarth a’r Gorllewin)

Mae Jan wedi bod gyda Tai Hafan ers 1991, ac wedi cael 2 ddyrchafiad. Cyn ei rôl bresennol roedd hi’n Rheolwr Prosiect i brosiect ‘Flag Ship’ sy’n enghraifft wych o un o brosiectau Tai Hafan i ferched ifanc – y Prosiect Phoenix yng Nghaerfyrddin. Mae ei dyletswyddau presennol yn cynnwys rhedeg rhanbarth y canolbarth a’r Gorllewin o ddydd i ddydd, gyda ffocws arbenigol ar ddatblygiad personél sydd yn cynnwys hyfforddiant, cyfraith cyflogaeth a Buddsoddwyr mewn Pobl.
“Mae fy rhanbarth i wedi ei wneud o bedwar cynllun ‘clwstwr’ i ferched di-amddiffyn, ein prosiect cyntaf i ferched ifanc sy’n gadael gofal, y Prosiect Phoenix, yng Nghaerfyrddin, a Phrosiect Pearl yn Hwlffordd, a hefyd am bobl sy'n gadael gofal, a enillodd Wobr Val Feld ar gyfer Digartrefedd yn 2003. Mae’r rhanbarth hefyd yn cynnwys dwy loches sydd yn eiddo i Tai Hafan ac yn cael eu rheoli gan Cymorth i Ferched Abertawe a Canolfan Argyfwng Teuluol Sir Faldwyn yn y drefn honno. Cafodd gwasanaethau cynhaliol symudol eu datblygu law yn llaw â phrosiectau menywod ifanc, ac mae gwasanaethau i gynnal tenantiaid awdurdodau lleol a chymdeithasau tai eraill ym Mhowys a Sir Gaerfyrddin, a chleientiaid y gwasanaeth prawf yn Sir Benfro yn profi'n effeithiol a llwyddiannus.”


Nikki Warrington B.A.Hons., M. Phil (Law), MCIH. –Rheolwr Rhanbarth (De Cymru)

Mae Nikki wedi bod gyda’r Gymdeithas ers 1995. Cyn hynny roedd hi’n gweithio i Gyngor Dinas Caerly^r fel Prif Reolwr Gwasanaethau Tai. Mae ganddi brofiad eang ymhob agwedd o’r maes Tai. Mae ei dyletswyddau presennol yn cynnwys ffocws arbenigol ar reolaeth a chadw tai yn ogystal â rhedeg rhanbarth de Cymru o’r Gymdeithas o ddydd i ddydd
“Rwyf yn rheoli saith cynllun cymorth tai ar hyd coridor yr M4 o Abertawe i’r Rhondda, chwe eiddo anghenion cyffredinol ym Mhort Talbot, a phrosiect menywod ifanc ym Mh ontypridd. Dros 100 o leoedd gwely o Gynhaliaeth Symudol wedi cael eu datblygu yn fy rhanbarth, pob un bron iawn ar gontract i’r awdurdodau lleol yn Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Torfaen ac Abertawe.
Yn ogystal â fy nyletswyddau fel Rheolwr Rhanbarthol, rwyf hefyd yn gyfrifol am ddatblygu gwasanaethau cynnal a chadw a rheolaeth tai yn Tai Hafan gan gynnwys polisi rhentu, eiddo gwag, llefydd i rentu, symud ymlaen, trwsio a chyfranogiad tenantiaid, ac ar y funud yn arwain Arolwg Gwerth Gorau o’n gwasanaeth cynnal a chadw.”


Y Bwrdd RheoliY Bwrdd Rheoli


Janet Amos - Cadeirydd

Mae Janet yn gyn denant gyda Tai Hafan. Cafodd ei hyfforddi fel nyrs mewn gwasanaethau iechyd meddwl ac mae hi nawr yn dod â’i phrofiad fel defnyddiwr y gwasanaeth i’n cynorthwyo ni i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion ein tenantiaid yn briodol. Bu'n Gadeirydd y Gymdeithas ers mis Medi 2004

Jan Huyton B.A., Is-Gadeirydd

Uwch Ddarlithydd yw Jan mewn Astudiaethau Tai yn UWIC, Caerdydd. Cyn hynny roedd hi’n Gyfarwyddwr Cymdeithas Tai i Ferched Ifanc yng Nghaerdydd ac mae hi hefyd wedi gweithio i Gymorth i Ferched ac mewn gwaith datblygu cymunedol. Wedi ei hyfforddi fel ymgynghorydd a hyfforddwr, mae hi hefyd yn aelod sylfaenol o elusennau sy’n rhoi cymorth i ferched sydd wedi cael eu treisio’n rhywiol a phobl gydag anableddau.

Anne Louise Phillips -Trysorydd

Mae Anne yn Gyfrifydd Cymwys ac mae ganddi gefndir yn y maes iechyd. Mae ei rôl bresennol yn cynnwys rheolaeth ariannol o gyllidebau Gofal Cymdeithasol a thai ac yn ddiweddar roedd o’r gwaith o Gynorthwyo Pobl i Drosglwyddo o dderbyn Budd-dal Tai i dderbyn Grant Cynnal Pobl. Hefyd yn ddiweddar mae wedi ymddiswyddo fel Trysorydd Undeb Credyd Brycheiniog a’r Ardal.


Catriona Graham B.A. Hons. Cantab., MCOH, Dip. Social Admin.

Catriona yw Pennaeth Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Powys. Mae ganddi brofiad eang yn y sector tai mewn llywodraeth leol, ac roedd hi’n gadeirydd y Gymdeithas am 5 mlynedd tan 2002


Jill Taylor B.A. Hons.

Jill oedd un o aelodau sylfaenol Tai Hafan a bu hi’n gadeirydd am y 6 blynedd gyntaf. Mae hi wedi bod yn gweithio am rai blynyddoedd i Ymddiriedolaeth Buttle, ac yn gweithio cynt i Gymorth i Ferched Cymru fel Cydlynydd Tai Cenedlaethol. Mae hi ar hyn o bryd yn gweithio gyda ‘Children are Unbeatable’.


Alison Morgan

Alison oedd ein cynrychiolydd cyn denantiaid cyntaf ar y Bwrdd Rheoli ac mae hi’n dod â’i phrofiadau o wasanaethau Tai Hafan i sicrhau fod persbectif y tenant yn cael ei gadw mewn golwg wrth ystyried y fath faterion a sicrwydd o safon a gwerthuso ein gwasanaethau cynnal.


Inger Eriksson B. A. Hons.

Mae Inger wedi gweithio am nifer o flynyddoedd yn y sector wirfoddol ac yn Gyd lynydd Cymorth i Ferched Caerfyrddin


Fran Rawlings B.Sc., B.A., M.Sc., CQSW, Dip.S.W.

Mae Fran wedi ei hyfforddi fel Gweithiwr Cymdeithasol ac mae ganddi nifer o flynyddoedd o brofiad mewn cymorth tai a hawliau tai.



Fiona Hicks, HND mewn cyfrifiadureg

Roedd Fiona yn denant i’r Gymdeithas tan 1999, ac fe'i hetholwyd yn aelod o'r Bwrdd Rheoli ym mis Medi 2002. Mae hi ar hyn o bryd yn gweithio fel Gweinyddwr Prosiect i Gyngor Gwirfoddol Lleol Fflint, ac yn gyfrifol am dîm o 8 gwirfoddolwr a hefyd yn dysgu sgiliau cyfrifiadureg. Wedi cael ei HND mewn cyfrifiadureg mae hi bellach yn gweithio tuag at ei gradd.


Jacky Davies

Mae Jackie yn gyn denant i’r Gymdeithas a datblygodd ei diddordeb i ddod yn aelod o’r Bwrdd trwy gyfranogiad tenant gweithredol tra’n byw gyda’r Gymdeithas. Cymrodd ran yn ddiweddar mewn adolygu ac ailddrafftio Llawlyfr Tenantiaid y Gymdeithas ynghyd â 4 tenant arall a chynyddodd hyn ei brwdfrydedd i ymuno â’r Bwrdd, ac fe’i hetholwyd yn yr AGM diwethaf.

Colette F. Morgan BSc Econ (Anrhydedd Cyfun), Msc (Tai)

Mae Colette yn newydd i Fwrdd Tai Hafan ac mae hi’n gweithio o fewn y Sector Gwirfoddol fel Swyddog Polisi ar hyn o bryd. Cyn hyn roedd hi’n gweithio gyda Cymorth i Ferched Cymru am dair blynedd. Mae ganddi gefndir amrywiol gan gynnwys gweithio gyda grwp Cymorth i Ferched a dysgu mewn Addysg i Oedolion.