cynlluniau clwstwr tai hafan
Gwybodaeth i Ymgeiswyr

staff tai hafanBeth rydym yn ei ddarparu:

Gallem gynnig Ty neu fflat i chi os oes angen cymorth arnoch oherwydd y canlynol:

  • Eich bod wedi gadael cartref oherwydd trais – p’un ai trais corfforol, meddyliol neu rywiol
  • Os oes gennych broblemau gyda’ch iechyd meddyliol
  • Os oes gennych broblem oherwydd alcohol neu gyffuriau
  • Eich bod wedi gadael gofal awdurdod lleol yn ddiweddar
  • Os ydych yn fam ifanc
  • Os oes angen pobl i’ch helpu i fyw ar eich pen eich hun
  • Os oes gennych broblemau iechyd y mae arnoch angen help gyda nhw
  • Os ydych yn ferch ifanc sydd yn ddigartref
  • Os ydych yn ferch sydd wedi, neu ar fin, gadael y carchar
  • Os ydych yn eiddil am unrhyw reswm arall

Mae pob cynllun yn cynnwys rhwng 3 ac 8 ty neu fflat hunangynhwysol. Mae’r rhan fwyaf drws nesaf i’w gilydd fel gall y merched a’r plant sydd yn byw yno helpu’i gilydd. Mae Cydlynydd Prosiect yn cael ei chyflogi ar gyfer pob cynllun ac fe fydd hi’n eich helpu i gydnabod beth yw’ch anghenion o ran cymorth a sut i’w diwallu nhw. Mae ein cydlynwyr wedi’u hyfforddi i’ch helpu chi i ddod yn fwy hyderus, er mwyn eich galluogi chi i ddelio gyda’ch problemau eich hunan fel y gallwch fyw’n annibynnol unwaith y byddwch yn symud i dy barhaol. Fe fydd hi hefyd yn eich helpu chi gydag unrhyw broblemau sydd gan eich plant.

Am Ba mor hir y galla’i aros?

Yn y lle cyntaf fe fyddwch yn cael cynnig tenantiaeth am 6 mis, er gall gael ei hadnewyddu bob 6 mis am hyd at 2 flynedd. Ni fyddwch fel arfer yn aros am fwy na hyn ond gellir gwneud eithriadau am resymau arbennig.

Faint o Gymorth sy’n cael ei ddarparu gennym?

Nid ydym yn darparu cymorth 24 awr, ond gallwn eich helpu:

  • Trwy roi cartref saff a diogel i chi
  • Trwy wrando arnoch a siarad gyda chi ac awgrymu ble y gallwch gael help gyda’ch problemau
  • Trwy siarad ar eich rhan gyda mudiadau eraill a chysylltu gydag asiantaethau fel Gwasanaethau Cymdeithasol, Cymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC) a seicolegwyr plant
  • Trwy helpu gyda phroblemau sydd gan eich plant
  • Trwy’ch helpu i ddod o hyd i gartref parhaol pan rydych yn barod i symud.

Gwybodaeth am Asiantaethau Atgyfeirio

Gall atgyfeiriadau gael eu gwneud drwy ffonio’r Swyddfa yng Nghaerfyrddin i gael ffurflen gais neu drwy gysylltu â swyddfa’r cynllun lleol. Fe fydd trefniadau wedyn yn cael eu gwneud i’r ymgeisydd gael ei gyfweld gan gydlynydd Prosiect.
Nodwch mai dim ond atgyfeiriadau gan ymgeiswyr benywaidd, â phlant neu heb rai y gellir eu derbyn.