Ble mae Cefnogaeth Sigledig Tai Hafan yn ei Gwmpasu? Mae Tai Hafan yn cynnig gwasanaethau cefnogaeth sigledig ac estyn allan. Mae ein cymorth symudol wedi ei anelu at ferched eiddil o bob oedran, y rhai â phlant a’r rhai sengl, ac rydym yn gallu rhoi cymorth i ferched hyn a’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. Beth Mae Cefnogaeth Sigledig Tai Hafan yn ei ddarparu? Mae Tai Hafan yn cynnig cefnogaeth sigledig i ferched eiddil, â phlant neu heb rai, yn eu cartrefi nhw eu hunain. Mae Cydlynwyr Prosiect yn cael eu cyflogi i bob cynllun cymorth symudol ac maent yn darparu pecyn cymorth wedi’i deilwrio yn unigol i bob defnyddiwr gwasanaeth ac i’w phlentyn hi, os oes ganddi blentyn. Beth yw nodau Gwasanaeth Cefnogaeth Sigledig Tai Hafan? Rydym yn cynnig agwedd gyfannol at ddarparu cymorth
i ferched ag ystod eang o anghenion – gan gynnwys merched sydd wedi
profi trais seicolegol, rhywiol neu gorfforol; merched sy’n gwella’u
hiechyd meddyliol; cyn-droseddwyr; camddefnyddwyr sylweddau; gadawyr gofal;
merched hyn. Mae ein pecyn cymorth strwythuredig yn galluogi merched a’u
plant i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd ei angen i gynorthwyo
gyda’u gwellhad eu hunain ac i sicrhau y gallant gadw’u hunain
mewn cartref annibynnol o fewn y gymuned. Mae’r gwasanaeth cymorth yn cyfeirio at dri phrif beth – anghenion emosiynol, anghenion ymarferol ac anghenion cymorth ychwanegol ac mae ein cydlynwyr prosiect yn sicrhau bod pob asiantaeth berthnasol yn cael ei chynnwys yn y pecyn o gymorth sy’n cael ei ddarparu i bob defnyddiwr gwasanaeth. Mae’r staff i gyd yn gweithio o sylfaen gwerthoedd gyffredin, wedi eu hyfforddi i gynghori a gwrando’n weithredol, ac mae ganddynt sgiliau, profiad a gwybodaeth eang iawn. Pa mor hir mae’r Cefnogaeth Sigledig yn para? Mae’r cymorth i gyd yn cael ei gynnig ar sail unigol, felly mae’r cyfnod pan mae rhywun yn cael cymorth yn amrywio. Mae’r cymorth yn dechrau’n eithaf dwys fel arfer – 1 neu 2 ymweliad yr wythnos – ac wedyn yn dod yn llai aml wrth i’r defnyddiwr gwasanaeth unigol ddod yn fwy hunanhyderus. Faint o Gymorth Mae Tai Hafan yn ei ddarparu yn y cynlluniau Cefnogaeth Sigledig? Mae ein gwasanaeth cefnogaeth sigledig wedi cael ei ddatblygu yn bennaf i ferched ag anghenion cymorth canolig neu uchel. Fe fydd lefel y cymorth sydd yn cael ei roi i ddefnyddwyr gwasanaeth fel arfer yn cael ei thrafod rhyngddynt a’u cydlynwyr prosiect, yn dibynnu ar eu hanghenion. Mae gwasanaeth y tu allan i oriau ar gael mewn argyfwng. |