Mae
ein prosiectau merched ifanc ni’n cynnig agwedd gyfannol at ddarparu
cymorth. Mae staff cymorth y prosiect yn gweithio gyda’r merched
ifanc i weithio tuag at ddyfodol positif, yn byw yn annibynnol yn y gymuned,
trwy hyrwyddo addysg, hyfforddiant a rhwydweithiau cymdeithasol a thrwy
ddatblygu diddordebau personol a gweithgareddau hamdden. Mae staff cymorth
yn sensitif i anghenion merched ifanc sydd yn byw o fewn y prosiect ac
sydd wedi profi effeithiau teuluoedd yn chwalu a cham-drin. Mae merched
ifanc yn cael cymorth i ddelio â’u hanghenion emosiynol trwy
ddefnyddio sgiliau cynghori.
Mae gennym becyn cymorth strwythuredig sydd yn galluogi merched ifanc
i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder. Mae staff y prosiect yn trafod
gyda’r merched ifanc i lunio cynlluniau cymorth unigol, ac yna’n
gweithio gyda nhw i osod amcanion cytun a’u cyrraedd nhw. Mae cymorth
yn cael ei ddarparu mewn amgylchedd hamddenol a hyblyg. Rhai pethau sy’n
derbyn sylw yn ystod y gwaith cymorth yw: cyllidebu, coginio, gwaith gwella’r
ty, arian, ysgol/addysg, hyfforddiant, gwaith, chwaraeon, hamdden, sgiliau
cymdeithasol, hunan-niwed, problemau bwyta, iselder, cynlluniau tymor
hir ayyb.
Prosiect Ffenics
Sefydlwyd
ein prosiect cyntaf ar gyfer merched ifanc sy’n gadael gofal yng
Nghaerfyrddin ym mis Hydref 1995 trwy bartneriaeth rhwng Tai Hafan a Gwasanaethau
Cymdeithasol Caerfyrddin, gyda nawdd ychwanegol gan Plant Mewn Angen y
BBC. Mae’r prosiect yn darparu cymorth a thai tymor byr i ferched
ifanc rhwng 16 a 21 oed sydd yn gadael Gofal Awdurdod lleol, neu sydd
yn eiddil yn nhermau Deddf Plant 1989. Mae’r prosiect yn cynnwys
tai cymorth, ty^ yn Nhref Ioan, Caerfyrddin, wedi ei rannu gan 3 o ferched
ifanc a 2 fflat hunangynhwysol i ferched ifanc sydd angen mwy o annibyniaeth
neu sydd â phlentyn. Mae hefyd yn darparu cefnogaeth sigledig a
chymorth estyn allan i 6 merch ifanc ychwanegol.
Prosiect Merched Ifanc y Rhyl
Mae Prosiect Merched ifanc y Rhyl wedi bod
ar waith ers 1998 a dyma oedd ail brosiect Tai Hafan i Ferched Ifanc.
Nod y prosiect yw darparu cymorth i ferched ifanc eiddil, gan gynnwys
mamau ifanc, i adeiladu eu hyder a’u hunan-barch cyn iddynt symud
i fyw yn annibynnol. Mae’r prosiect yn darparu tai a chymorth dwys
i ferched ifanc eiddil sydd rhwng 16 a 25 oed, rhai a fydd yn feichiog
neu sydd yn famau ifanc yn barod. Mae atgyfeiriadau yn cael eu derbyn
o bob ffynhonnell, gan gynnwys hunan atgyfeiriadau, ond gan mai un gwely’n
unig sydd yn y fflatiau, ni all y prosiect gymryd atgyfeiriadau gan ferched
ifanc gyda phlant dros un oed. Serch hynny, gall anghenion y merched hyn
nawr gael eu diwallu trwy gefnogaeth sigledig gan fod y prosiect yn gallu
rhoi cymorth i 10 merch ifanc ychwanegol mewn amryw o ddeiliadaethau.
Gall cymorth cyn y denantiaeth hefyd gael ei ddarparu, diolch i grant
gan Ymddiriedolaeth Esmee Fairbourn ar gyfer Gweithiwr Estyn Allan.
Prosiect Perl
Sefydlwyd
Prosiect Perl yn Hwlffordd yn 2000, trwy bartneriaeth rhwng Tai Hafan,
Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Benfro a Chymdeithas Dai Sir Benfro. Prosiect
Perl yw trydydd Prosiect Tai Hafan sydd yn benodol ar gyfer merched ifanc
ac yn darparu tai cymorth i ferched ifanc eiddil, rhwng 16 a 21 oed sydd
wedi gadael Gofal Awdurdod Lleol neu sydd yn eiddil yn nhermau Deddf Plant
1989 ac sydd angen cyfnod o dai cymorth cyn byw yn annibynnol.
Mae’r prosiect yn cynnwys dwy lefel o dai:
I ferched ifanc sydd angen lefel uchel o gymorth mae Tai Hafan yn rheoli
ty tair ystafell wely lle mae gan ferched ifanc eu hystafelloedd eu hunain
ac yn rhannu cegin, ystafell ymolchi a chyfleusterau byw.
I ferched ifanc sydd angen lefel is o gymorth ac i ferched ifanc a chanddynt
blentyn, mae dwy fflat hunangynhwysol yn cael eu darparu. Yma fe fydd
merched yn cael cymorth nes eu bod nhw, a’u cydlynydd prosiect,
yn teimlo’u bod yn gallu ymdopi’n annibynnol. Unwaith y bydd
hyn yn digwydd fe fydd y ferch ifanc yn gallu parhau i fyw yn ei fflat,
ac fe fydd Cymdeithas Dai Sir Benfro yn darparu fflat arall i’r
prosiect ei chynnig i rywun arall sydd angen cymorth a thy. Mae hyn yn
cael ei alw’n Gefnogaeth Sigledig. Yn ogystal, mae gwasanaeth cefnogaeth
sigledig y prosiect nawr yn rhoi cymorth i 2 ferch ifanc ychwanegol sydd
wedi cael eu hatgyfeirio gan y gwasanaeth prawf.
Prosiect Merched Ifanc Conwy
Sefydlwyd Prosiect Merched Ifanc Conwy yn 2002, ac
mae’n gweithio’n agos gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy.
Mae’n darparu tai cymorth dros dro i 5 o ferched ifanc sydd yn gadael
gofal ALL, neu sydd yn eiddil ac angen cymorth. Mae’r prosiect yn
cynnwys ty wedi ei rannu rhwng 3 merch ifanc a 2 dau ty neu fflat hunangynhwysol.
Yma fe fydd merched ifanc yn cael cymorth nes eu bod nhw, a’u cydlynydd
prosiect, yn teimlo’u bod yn gallu bod yn annibynnol. Unwaith y
bydd hyn yn digwydd, fe fydd y ferch ifanc yn gallu parhau i fyw yn ei
fflat, ac fe fydd fflat arall yn cael ei darparu i’r Prosiect ei
chynnig i rywun arall sydd angen cymorth a thy. Mae hyn yn cael ei alw’n
Gefnogaeth Sigledig.
Prosiect Bridgit
Cychwynnodd y prosiect menywod ifanc yn Rhondda Cynon Taf ar ddiwedd 2001 yn bartneriaeth rhwng Tai Hafan a Chymdeithas Tai Newydd, ac erbyn hyn mae hefyd yn cael ei rhedeg yn bartneriaeth agos gyda Thîm Gadael Gofal y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'n darparu cynhaliaeth i 6 menyw ifanc trwy eu cynnal mewn tenantiaethau parhaol a ddarperir gan Newydd - trwy gefnogaeth sigledig. Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys ty rhannu a gall ddarparu ystafelloedd gwely unigol a chyfleusterau ar y cyd i hyd at dair menyw ifanc.
Prosiect Menywod Ifanc Wrecsam
Mae Prosiect Menywod Ifanc Wrecsam yn cynnig tai cynaledig ar gyfer menywod ifanc bregus 16-25 oed. Mae'r prosiect yn cynnwys chwe fflat, tri fflat un ystafell wely a thri fflat stiwdio
|