Stori Allie:
Mae Allie 40, wedi byw yng Nghymru am y 4 blynedd ddiwethaf. Symudodd Allie i Gymru o Brighton , gan ddianc o berthynas gamdriniol a'i gwr, a chafodd loches gyda ffrindiau. Bu Allie yn gweithio'n therapydd holistaidd a thrwy'r gwaith hwn, cyfarfu ei phartner Dave. Yn anffodus aeth Dave yn ddifrifol wael a bu Allie yn ei nyrsio nes iddo farw fis Hydref diwethaf. Wedi marwolaeth Dave dioddefodd Allie chwalfa emosiynol.
Prynodd Allie garafán statig sydd ar safle preifat ger Llandrindod. Mae Allie yn cael cymorth a chynhaliaeth gan CTH. Heb y cymorth hwn, yn ei geiriau ei hun, byddai ei sefyllfa yn anobeithiol.
Stori Trudy: Mae'n ddwy flynedd ers imi symud i dai cynhaliol gyda Thai Hafan. Ar ôl dwy berthynas drychinebus roeddwn wedi colli fy hyder, fy hunan barch a doeddwn i ddim yn credu y gallwn ymdopi. Roeddwn ar ben fy hun gyda'm tri bachgen a dwy ferch, a'r hynaf yn dioddef o ADHD eithafol. Roedd fy mywyd yn anhrefn llwyr a doeddwn i ddim yn credu y gallwn fyth ymddiried eto mewn perthynas.
Mae fy mywyd wedi newid yn gyfan gwbl. Mae gen i lais sy'n cael gwrandawiad. Digwyddodd hyn trwy gynhaliaeth. Mae yna wastad rywun i rannu fy mhroblemau ac i drafod sut alla i newid beth bynnag sy'n fy mhoeni, ond beth sy'n dda yw mod i'n gwneud fy newisiadau fy hun. Rydw i wedi dysgu llawer, o dystysgrif mewn dadebru i wneud cwilt clytwaith. Cawsom ddyddiau teuluol difyr allan yn y Barri a Pharc Margam a Sain Ffagan. Rydw i wedi bod yn rhan o sesiynau cymdeithasol rhanbarthol i denantiaid ble y mae Tai Hafan wedi gwrando ar yr hyn rydyn ni'i eisiau.
Wrth i amser fynd yn ei flaen, rydw i erbyn hyn yn ddigon hyderus i helpu pobl newydd sydd wedi cyrraedd y cynllun i ymgartrefu ac i ddod yn rhan o'n cymuned. Rydw i wedi bod yn bartner geni tenant arall. Rydw i'n teimlo mod i wedi gwneud ffrindiau oes gyda phobl na fyddwn wedi'u cyfarfod fel arall.
Efallai mai'r peth pwysicaf rydw i wedi'i ddysgu yw ymddiried ynof fi fy hun a'm dewisiadau. Rydw i ar fin dyweddïo gyda dyn hyfryd, rhywbeth na fyddwn wedi credu'n bosib ddwy flynedd yn ôl. Rydw i'n hapus ac yn bwysicaf oll, mae fy mhlant yn hapus. Rydyn ni i gyd wedi dod yn bell yn ystod ein cyfnod gyda Thai Hafan.
Rydw i'n barod i symud ymlaen gan wybod fod rhyw fenyw arall sydd efallai'n teimlo fel roeddwn i, angen yr hyn y mae Tai Hafan yn ei gynnig. Doedd hi ddim yn rhwydd ysgrifennu hyn ond rydw i'n teimlo fod gen i gymaint o ddyled ac rydw i'n credu ei bod yn bwysig dweud diolch, Tai Hafan.
Stori Rhian: Gyrru i'r siopau yn fy nghar fy hun, teimlo'n ddiogel yn fy nghartref, gweld fy mhlant yn hapus a dal fy mhen yn uchel wrth imi fyw fy mywyd, mae'r rhain yn bethau nad oeddwn fyth yn credu y gallwn eu gwireddu. Yn sicr nid pan roeddwn gyda fy nghyn w r.
Roeddwn yn 15 oed adeg ein cyfarfod cyntaf. Roedd yn hyn na fi ac o deulu gwael. Ond doedd dim ots gen i. Roedd yn gynhyrfus. Doedd fy rhieni ddim hyd yn oed yn gwybod mod i'n gweld unrhyw un. Pan gawsant wybod, aeth pethau'n flêr iawn.. Dywedodd fy nhad wrthyf fod fy nghyn gariad yn ddrwg, fod ei dad yn dreisgar ac na ddaethai unrhyw les o'r berthynas. Fe wnaethon nhw hyd yn oed geisio fy ngwneud yn ward llys.
Pan yn un ar bymtheg gadewais gartref. Roeddwn wedi mopio'n lân ar y dyn ac o dan ei reolaeth, neu ei gariad fel yr oeddwn i'n ei alw ar y pryd.
O'r cychwyn cyntaf, roedd ein perthynas yn un ddinistriol. Dioddefais gymaint o gamdriniaeth yn ei ddwylo. Emosiynol, corfforol a rhywiol ond roeddwn yn gaeth a heb syniad i ble i droi.
Dyma fi'n beichiogi, gan feddwl yn wirion pe awn i'n cael ei fabi y byddai pethau'n gwella. Ond roeddwn yn anghywir. Golygodd fy mod hyd yn fwy caeth a chlwm iddo. Beichiogais eto'n fuan ar ôl rhoi genedigaeth i'n plentyn cyntaf. Doedd gen i ddim rheolaeth dros wneud unrhyw benderfyniadau drosof fy hunan . Roedd gen i'w ofn gymaint fel fy mod yn derbyn pethau fel yr oeddent. Cawsom dri phlentyn arall.
Aeth y cam-drin yn ei flaen trwy gydol y cyfnod hwn. Byddai'r peth lleiaf oll yn ei wylltio'n gacwn. Byddai'n fy nghloi o dan y grisiau mewn cwpwrdd gyda thâp ar draws fy ngheg os oeddwn yn gwneud rhywbeth o'i le. Roeddwn yn teimlo wedi fy mychanu a chywilydd am rai o'r pethau yr oedd yn fy ngorfodi i'w gwneud. Roeddwn yn teimlo'n gwbl unig yn fy myd bach fy hun, gan weddïo ryw ddydd y byddai'r cyfan yn diflannu, ond yn y bôn gwyddwn na fyddai.
Roeddwn yn gwybod bod rhaid imi wneud rhywbeth. Nid yn unig imi ond i'm pedwar mab ifanc. Gwyddwn, oni bai mod i'n gwneud rhywbeth yn fuan, y byddwn yn farw.
Dyma wneud cynllun yn fy mhen i'w adael a mynd â'r plant. Roeddwn yn gwybod am lochesi oherwydd bod tad fy nghyn wr yn droseddwr trefnlen un ac roedd rhai o weithwragedd y lloches yn arfer mynd i weld fy nghyn fam yng nghyfraith i roi rhywfaint o gynhaliaeth ac i roi'r cyfle iddi siarad am ei theimladau. Sawl gwaith pan roeddwn yn ymweld, a hwythau yno roeddwn eisiau siarad â nhw am yr hyn oedd yn digwydd imi, ond roedd gen i ormod o ofn y canlyniadau.
Dyma fynd ati yn y dirgel i bacio rhai o'm dillad a rhai'r plant gan guddio'r bagiau allan o'i olwg e. Yna arhosais am y cyfle iawn. Doedd dim rhaid imi aros yn hir.
Yn fuan wedyn dioddefais ymosodiad arbennig o dreisgar a chiaidd. Penderfynais y byddwn yn mynd amdani'r noson honno. Dyma gasglu'r plant a'n bagiau at ei gilydd a gwneud ein ffordd i loches lleol Cymorth i Fenywod.
Ar y cychwyn roedd bywyd yn y lloches yn anodd gan nad oeddwn yn adnabod unrhyw un, ond roedd hynny ganwaith gwell na byw gyda fy nghyn w r a'r gamdriniaeth. Ar ô l wythnos dechreuais ymlacio a mwynhau fy hun hyd yn oed. Roeddwn yn teimlo'n ddiogel a hapusach nac ers tro byd. Roedd gweld yr hapusrwydd yng ngwynebau fy mhlant yn brawf mod i wedi gwneud y penderfyniad cywir.
Roedd y gynhaliaeth ges i gan Gymorth i Fenywod yn wych. Rhoesant gyngor imi ar nifer o wahanol bethau, ond fy newis i oedd gwrando a gwneud penderfyniadau drosof fy hun.
Cefais gynnig llety cynhaliol gyda Chymdeithas Tai Hafan, sy'n helpu menywod bregus a'u plant. Roedd symud allan o'r lloches ac i mewn i'm cartref cyntaf yn brofiad anodd ond roedd rhaid gwneud y gorau er mwyn y plant.
Gyda'm hyder newydd, dechreuais gwrs magu plant gyda Barnardos a wnaeth imi deimlo'n bwysig ac a'm helpodd i ddysgu ffyrdd gwahanol o ddelio â bywyd fel rhiant sengl.
Oddi yno dewisais ddilyn cwrs Plant a Datblygiad Blynyddoedd Cynnar yn fy ngholeg lleol. All neb ddychmygu'r ffordd roeddwn i'n teimlo pan gefais fy nhystysgrif gyntaf. Roeddwn yn teimlo fod gen i ryw rym newydd. Roedd fel pe gallwn goncro'r byd! Euthum drwy'r cwrs a mynd ymlaen i flynyddoedd dwy a thair.
Llwyddais hefyd i basio fy mhrawf gyrru a chael fy nghar fy hun, rhywbeth yr ydw i'n falch iawn ohono.
Gofynnodd Cymorth i Fenywod imi hyd yn oed os oeddwn eisiau helpu a dod yn rhan o Gymunedau'n Gyntaf, mudiad elusennol sy'n helpu pobl yn y gymuned. Roeddwn wrth fy modd i gael cyfle i gyfrannu at rywbeth mor bwysig â hyn. Erbyn hyn rydw i'n teimlo'n rhan bwysig a gweithgar o'r gymuned, rhywbeth na feddyliais erioed y gallwn ei gyflawni.
Rwyf yn awr wedi gosod nodau uwch i fi fy hun, ac rwyf yn meddwl mynd i weithio i'r Gymdeithas Tai a'm helpodd gymaint ac fe fyddwn i'n awr yn falch o helpu menywod mewn cymaint o angen ag yr oeddwn i.
Efallai fod fy nghyn w r wedi dwyn deng mlynedd o'm bywyd oddi arna i ond yr unig ffordd imi a'm bechgyn fynd erbyn hyn yw ar ei fyny.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cymorth i Fenywod Cymru 029 2039 0874
Cymdeithas Tai Hafan 01267 225555
Y fenyw yn y stori Rhian Jenkins 36 oed
Awdur Jennifer Hobbs-Roberts Ff ô n 01443 239543
Stori Defnyddwraig Gwasanaethau o Gaerfyrddin:
(ni roddir enw'r ddefnyddwraig gwasanaethau)
Gorffennais fy arholiadau TGAU a'r bwriad oedd mynd ymlaen i wneud lefel 'A' a chychwyn gyrfa yn y Fyddin. Ond ar ôl gwneud TGAU aeth fy nhad i'r carchar a chafodd hynny effaith wael iawn arna i. Dechreuais gymryd ‘Speed' a gadewais gartref pan yn 16 oed. Erbyn imi gyrraedd 19 roedd fy mywyd mewn rhigol ac roeddwn ar gyfnod prawf am ymosod ar rywun ac roeddwn i mewn ac allan o'r llys byth a beunydd. Alla i ddim cofio llawer am y cyfnod yma gan fy mod yn cymryd cyffuriau'n drwm ar y pryd. Cymerais Valium ar ddiwedd fy arddegau oherwydd sioc ac fe fyddwn yn cymryd tawelyddion i dawelu fy nhymer. Yr unig broblem oedd fy mod wedi mynd yn gaeth i dabledi cysgu ac fe fyddwn yn y fath gyflwr fel y byddwn yn meddwl am bob math o driciau i gael mwy ohonyn nhw.
O fod ar gyfnodau prawf ers yn 19 oed tan y llynedd a'r dirwyon diddiwedd rydw i'n credu y gallwn i fod wedi mynd ar fordaith byd ddwywaith drosodd a mynd â'r Swyddog Gorfodi Dirwyon gyda mi!
Daeth trobwynt wedi imi ddioddef damwain erchyll a'm gadawodd yn anabl. Sylweddolais fod angen imi wneud rhai newidiadau mawr yn fy ffordd o fyw. Pan oeddwn yn yr ysbyty, cyfeiriodd y Gwasanaeth Prawf fi at Gymdeithas Tai Hafan. Yn y gwanwyn 2004 cefais weithreg gynnal symudol ar gyfer Tai Hafan a'm helpodd fi gael lle i fyw. Buom yn edrych ar hosteli a hefyd ar lety parhaol. Yn y pendraw llwyddais i gael fflat. Roeddwn yn dal i wrthod derbyn fy mhroblem cyffuriau ac yn y lle cyntaf wnes i ddim dweud wrth Tai Hafan fod gen i broblemau cam-ddefnyddio sylweddau.
Mewn peth amser dechreuais fynd yn ôl i'm hen ffyrdd, gan gymryd cyffuriau Dosbarth A a B, yn ogystal â meddyginiaeth ragnodedig. Penderfynais fy mod wedi cael digon a'm bod eisiau newid fy mywyd unwaith ac am byth, neu gallwn weld fy hun yn mynd i'r carchar. Awgrymodd fy ngweithreg cynnal symudol y byddai dod allan o'r sefyllfa a ‘dechrau o'r dechrau' yn syniad da. Roedd gan Tai Hafan eiddo gwag y symudais i mewn iddo'n ddiweddarach, ac ers hynny rydw i wedi bod yn gweithio gyda'r staff i weithio trwy fy mhroblemau a chael gafael ar fy mywyd unwaith eto.
Llwyddais i gadw fy nhenantiaeth gyda nhw a chadw'r holl apwyntiadau gyda'r cyrff eraill sy'n fy helpu, rhywbeth na fyddwn byth wedi gallu'i wneud yn y gorffennol. Cyfeiriodd Tai Hafan fi at gynghorwyr cyffuriau ac alcohol arbenigol, ac erbyn hyn nid wyf yn cymryd meddyginiaeth ragnodedig a rhoddais y gorau i gyffuriau anghyfreithlon. Fûm i ddim gyda'r Gwasanaeth Prawf ers 8 mis ac mae bod yn ‘ddi ddirwy' yn deimlad braf iawn. Fi hefyd yw un o ychydig denantiaid Tai Hafan sydd wedi bod yn holl ddigwyddiadau Tai Hafan, gan gynnwys helpu gyda chyfweliadau, codi arian, paentio a mynd ar gwrs ar straen ac ymlacio a yoga a hunan amddiffyn.
Stori
Nina:
“Flwyddyn yn ôl roeddwn ar fy isaf
posibl. Gadewais fy ngw^r, a oedd yn dreisgar a bu’n rhaid i mi
adael fy nhri o blant yno hefyd. Cefais fy chwalu gan hynny, ac roedd
gennyf iselder sylweddol pan ddes i fyw mewn cynllun Tai Hafan yn Abertawe.
Daeth y Nadolig ac roeddwn i’n mynd yn waeth ac yn waeth am fy mod
yn crefu am fy mhlant. Roeddwn mor isel fel fy mod yn teimlo fel cuddio
rhag pawb ac aros yn fy ngwely. Dyna pryd roedd fy ngweithiwr cymorth
wir yno i mi, gan alw mewn bob bore ar un adeg fel fy mod yn fy ngwthio
fy hun i godi ac agor y drws iddi hi.
Erbyn y diwedd roeddwn yn gallu siarad am sut
roeddwn yn teimlo a daethom i drafod fy sefyllfa. Ychydig wythnosau yn
ddiweddarach, dechreuais ddangos cymhelliad. Rwyf wastad wedi mwynhau
addurno, ac ail-wneud y fflat a’m cafodd i wneud pethau ar y cychwyn.
Wrth i fy iselder wella dechreuais wneud ffrindiau newydd – roedd
rhai ohonynt wedi profi sefyllfaoedd tebyg i mi. Yn raddol dechreuais
fynd allan i gael coffi gyda phobl yn ystod y dydd, neu allan am ddiod
ar benwythnosau.
Mae’r cymorth maent yn ei roi i chi yn Tai
Hafan i gyd yn ymwneud â gosod targedau i chi’ch hunan ac
yn raddol cyrraedd lle rydych eisiau bod. Un o fy rhai i yw cael ychydig
o gymwysterau, ac rwyf wedi dechrau cwrs coleg a fydd yn rhoi tystysgrif
mewn sgiliau cyfrifiadur i mi, os y byddaf yn parhau, ac rwyf yn bendant
yn bwriadu gwneud hynny. Ar ôl hynny rwyf eisiau swydd.
Mae edrych yn ôl ar fy iselder yn gwneud
i mi grynu. Nid wyf byth eisiau teimlo felly eto, ac rwyf wedi gweithio’n
galed i ddod mor bell â hyn. Gan gofio pa mor isel ac unig roeddwn,
rwyf mor falch fod Tai Hafan yno i’m helpu ar y ffordd i fywyd newydd.
Stori Sally:
Rwyf yn fam i dri o blant ac rwyf eisiau cael
fy hyfforddi i fod yn weithiwr cymdeithasol. Rwyf ar gwrs mynediad ar
hyn o bryd. Gallech ddweud nad oes dim byd anarferol am hynny. Ond pan
ddes i fyw ar gynllun Tai Hafan Pontypridd i ddechrau, roeddwn yn un o
bryderon Gwasanaethau Cymdeithasol. Roeddwn mewn perygl o golli fy merch,
y babi roeddwn yn ei gario, a’m plentyn hynaf nad oedd bellach yn
byw gyda mi.
Des o Ddinas fawr ac roeddwn wedi bod yng nghanol
cyffuriau a phopeth sy’n mynd gyda nhw. Roeddwn yn dwyn ac yn gwerthu
fy hun i fwydo’r arfer. Dywedodd y mymryn bach o synnwyr a oedd
yn weddill gennyf fod yn rhaid i mi roi’r gorau iddi a dechrau’n
ffres os oeddwn am fyw fy mywyd yn iawn, a bywyd fy mhlant.
Felly, dyna lle roeddwn, yn byw ar y wlad ac yn
dod oddi ar gyffuriau gyda fy merch a fy mab newydd-anedig. Nid oedd yn
hawdd – gallaf ddweud fy mod wedi gyrru fy ngweithiwr cymorth hanner
o’i chof. Roedd yna lawer o grïo ac ychydig o weiddi –
a chryn dipyn o chwerthin hefyd, rwy’n cofio. Ar ôl blwyddyn
o waith caled ar ran y ddwy ohonom, cefais gynnig fflat yn ôl yn
fy mro i fod yn agos at fy mhlentyn hynaf a gweddill fy nheulu.
Rwyf nawr wedi setlo ar fy nghwrs, ac yn meddwl
beth fydd y pwerau mawr yn ei wneud o fy mhrofiad bywyd pan gânt
fy nghais am hyfforddiant mewn gwaith cymdeithasol. Credaf fy mod yn gwybod
mwy na’r rhan fwyaf yngly^n â chael eich eithrio o’r
gymdeithas, a beth sy’n rhaid ei wneud i godi yn ôl i fyny.
Mae un peth yn sicr – ni fuaswn wedi llwyddo
heb Tai Hafan. Rwyf yn enghraifft fyw o’r hyn mae eu gwasanaeth
cymorth unigol yn gallu ei wneud. Mae to uwch eich pen yn un peth, ond
pan fo’ch bywyd yn llanast yr hyn sydd ei angen arnoch yw strwythur
a rhywun i weithio trwyddo gyda chi. Diolch, Tai Hafan – fe helpoch
chi fi i wyrdroi fy mywyd.
Stori Sian:
Des o Aberhonddu i Fracla ym mis Mawrth, bum mlynedd
yn ôl. Roeddwn yn teimlo’n weddol bositif pan gyrhaeddais
gan fy mod yn adnabod teulu yn y cynllun yn barod ac roedd hynny wir yn
help i mi ddod o hyd i fy nhraed. Ond erbyn mis Mehefin roeddwn yn wael
ac yn yr ysbyty am dair wythnos ac o hynny ymlaen roeddwn yn sâl
am y ddwy flynedd nesaf. Nid oeddwn yn adnabod neb. Teimlais yn euog –
teimlais rywsut na ddylwn fod yn y cynllun. Roedd hi’n ddwy flynedd
hir o gryn eiddilwch a dim ond ar ôl hynny y dechreuais siarad gyda
fy ngweithiwr cymorth tai.
Helpodd hi nid yn unig gyda llenwi ffurflenni,
ond anogodd hi mi i ‘wneud rhywbeth yn hytrach nag eistedd ar fy
mhen ôl’.’ Rwyf wedi mynychu cyrsiau ar hunanamddiffyn
ac ymwthgarwch ac fe es ar wyliau i Borthcawl, gan fwynhau’n arw.
Yna dechreuais wneud gwaith gwirfoddol gyda grw^p cymorth lleol a threuliais
un Nadolig yn eu helpu.
O hynny fe es ar gwrs hyfforddiant am flwyddyn
i fod yn gynorthwy-ydd gofal anghenion arbennig. Fel rhan o’r cwrs
roedd yn rhaid i mi weithio mewn ysgol anghenion arbennig, ac yn sioc
fawr i mi cefais gynnig swydd gyda nhw ar ddiwedd fy nghyfnod. Rwyf yn
gweithio yn y bore a rhai prynhawniau ac yn mwynhau bod gyda’r plant
yn arw a’u gweld nhw’n cyflawni pethau. Ar hyn o bryd rwyf
yn aros i fynd ar gwrs sy’n cael ei redeg gan Sefydliad Brenhinol
y Deillion, a fydd yn fy helpu i weithio gyda’r myfyrwyr â
nam ar eu golwg sydd yn mynychu’r ysgol.
Mae Tai Hafan wedi dangos i mi fy mod yn gallu
gofyn am gymorth – a chyda’u cymorth nhw rwyf wedi profi nad
wyf mor ffôl ag a wnaed i mi feddwl. Dysgais fod Tai Hafan ond yn
gallu’ch helpu os gadewch iddynt wneud hynny ac maent wedi dangos
i mi fod yna fywyd i’w gael ond ei fod i fyny i mi os oeddwn am
gymryd y cyfle i ailadeiladu f’un i gyda’u help nhw. Mae’r
ychydig flynyddoedd diwethaf wedi fy ngwneud i’n berson llawer cryfach
a mwy hyderus. Fe wnaf roi cynnig ar unrhyw beth! Fy nghyngor i denantiaid
eraill pan maent yn cael cynnig syniadau ac awgrymiadau newydd yw ‘ewch
amdani’!
Stori Pat:
Fel llawer o denantiaid roedd gennyf ofn mawr,
yn teimlo’n isel ac yn brifo pan ddes i Tai Hafan yn gyntaf. Nid
oeddwn yn cydweithredu yn fy nwy flynedd gyntaf. Roeddwn yn amheus iawn
o’r gweithwyr cymorth. Bob tro roeddwn yn eu cyfarfod roeddwn yn
poeni beth oeddynt yn ei feddwl ohonof a’u bod yn fy marnu. Roeddwn
angen eu help ond nid oeddwn eisiau ei gymryd, a oedd yn rhwystredigaethus
ofnadwy. Nid oeddwn yn gallu derbyn y ffaith nad oeddwn yn gallu ymdopi.
Ni allwn ofyn am help am fy mod wastad wedi gwneud popeth fy hun. Fy nghyfrifoldeb
i oedd fy mhroblemau ac felly nid oeddwn yn teimlo fy mod yn gallu gofyn
am help. Roeddwn yn flin ofnadwy ac yn ei gadw i fi fy hun.
Mae Tai Hafan wedi fy nysgu i fod yn fy mherson
fy hun, ac nad yw hi’n hunanol i gael fy meddwl fy hun. Rhoddodd
fy ngweithwyr cymorth anogaeth ysgafn, ond llym, barhaus i mi gael fy
meddwl fy hun. Un o’m hanawsterau mwyaf oedd deall fy nicter ac
mae Tai Hafan wedi fy nysgu sut i’w fynegi yn hytrach na’i
fygu.
Mae’r help a’r cymorth a ddarparwyd
wedi dod mewn nifer o ffyrdd gwahanol, yn amrywio o ymarferoldeb trafnidiaeth
i’r siopau, rhoi trefn ar fudd-daliadau, i gael rhywun o gwmpas,
yn gwrando arnaf. Rwyf yn gwybod bod rhywun ar ben arall y ffôn
er fy mwyn i’n unig, rhywun ar gyfer fy anghenion i’n unig.
Rwyf hefyd wedi cael cymorth sylweddol gan denantiaid
eraill. Mae’r cysylltiadau cyfeillgarwch yn arbennig iawn am ein
bod ni i gyd yn yr un cwch ac mae gennym ddealltwriaeth well o broblemau’n
gilydd. Tai Hafan yw fy system wrth gefn, maent wedi bod yno i’m
codi i fyny ar ôl i mi ddisgyn. Roeddwn yn sâl ac roeddynt
yno i mi. Ni all fy nheulu gredu’r newid ynof fi, rwyf mor hamddenol.
Mae nhw’n dod ataf fi nawr am gyngor ac rwyf yn gallu rhoi cymorth
iddynt pan maent ei angen. Wedi bod trwy hyn i gyd, rwyf yn ceisio rhoi
golwg bositif ar bethau i bawb arall. Rwyf yn barod i symud ymlaen nawr.
|