Tegellau a Bylbiau golau

Yn ystod 2002 cafodd Tai Hafan nifer o eitemau hanfodol megis bylbiau golau ynni isel a thegellau jwg ynni isel i’w denantiaid a defnyddwyr gwasanaeth trwy brosiect cymunedol SWALEC.

Mae bylbiau golau ar gael i denantiaid am ddim (dim mwy na 4 i bob tenant) ac mae’r tegellau i’w cael am £2.50 yr un

Mae’r eitemau uchod yn dibynnu ar faint sydd ar gael gan fod y cynllun wedi gorffen erbyn hyn. Dylid gwneud ymholiadau trwy eich C.P.


Diogelwch Tân Cymunedol

Mae Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol yn gweithio ar gynllun Diogelwch Tân Cymunedol, i leihau niwed a marwolaethau a hefyd lleihau’r niwed i eiddo sy’n cael ei achosi gan dân.

Y flwyddyn ddiwethaf cafodd Tai Hafan arian i brynu ffriwyr saim dwfn i denantiaid eu defnyddio yn hytrach na sosbenni sglodion. Flwyddyn ddiwethaf hefyd cawsom arian i brynu cyflenwad o gratiau tân i’w defnyddio gan e.e. teuluoedd â phlant bach – ac mae gennym gratiau tân o hyd os oes unrhyw un eu hangen. Eto, gofynnwch drwy eich C.P.

Eleni mae Tai Hafan eto wedi gwneud ceisiadau llwyddiannus am arian o dan y cynllun Diogelwch Tân Cymunedol. Mae’r Gwasanaeth Tân ym mhob ardal yn hyfforddi staff Tai Hafan trwy Gymru gyfan i asesu’r risg o dân i bob tenant / defnyddiwr gwasanaeth yn ei chartref. Fe fydd Hyfforddiant Diogelwch Tân ar bob prosiect / cynllun yn cael ei gyflwyno i bob tenant / defnyddiwr gwasanaeth gan ein staff yn ‘sesiynau dod at ein gilydd’ gynllun ac fe fydd pob unigolyn yn cael asesiad risg yn ei chartref. Rydym wedi cael arian gan y Cynulliad, i brynu rhai eitemau penodol a fydd yn helpu i leihau risg tân (e.e. goleuadau nos, socedau llaes 4 ffordd gydag amddiffyniad rhag ymchwydd, ffriwyr saim dwfn, griliau trydan a phadelli ffrio dan reolaeth thermostat) ble bynnag mae eu hangen. Fe fydd pob tenant yn gweithio allan, gyda’i CP, gynllun dianc o’i chartref os oes yna dân. Fe fydd tenantiaid yn clywed am hyn, gan eu CPau yn fuan gan fod yn rhaid i ni gwblhau’r asesiadau tân i gyd erbyn diwedd mis Chwefror.

Buasem yn hoffi clywed am unrhyw syniadau sydd gan denantiaid am ffyrdd eraill o leihau risg tân.

Fe fuasem efallai yn gallu gofyn am fwy o arian y flwyddyn nesaf i ehangu ein cynllun hyfforddiant diogelwch tân